 |  |  | Cychwyn y daith Hel meddyliau cyn cychwyn |  |  |
 | John Rowlands o Gaerdydd ydw i, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru.
Rwy'n 53 oed ac yn dad i dair merch.
O 14 Gorffennaf tan 2 Hydref, 2007, mi fyddai'n cerdded mil o filltiroedd fel rhan o ymgyrch Torrwn y Carbon Cymorth Cristnogol.
Angen gwneud mwy Rydw i wedi bod yn gefnogwr brwd o Gymorth Cristnogol ers blynyddoedd lawer; un byd yw hwn ac rydym ar y blaned hon fel un ddynoliaeth a dwi'n cytuno gyda Chymorth Cristnogol bod Newid Hinsawdd yn fater o gyfiawnder byd-eang.
Fel teulu mi rydan ni wedi bod yn gwneud ymdrechion i leihau ein hôl troed carbon ond ers amser, bellach, rwy'n teimlo bod angen gwneud rhywbeth mwy.
Mae angen cael ongl bersonol i'n consyrn ni am ein brodyr a'n chwiorydd ni mewn rhannau eraill o'r byd.
Gall hyn olygu codi arian, gwerthu nwyddau masnach deg, ysgrifennu llythyrau ar ran carcharorion cydwybod neu helpu'r digartref ar ein rhiniog ein hunain.
Mae hyn yn rhan o fywyd Cristnogol a fy ngobaith i yw y byddaf yn parhau'r traddodiad pwysig hwn wrth gerdded ar y daith.
Angen llais Cristnogol Dwi'n credu'n gryf bod angen i lais Cristnogol ar faterion cyfoes gael ei glywed. Mae'n tystiolaeth Gristnogol ni a'n consyrn am eraill, yn arbennig y tlawd a'r difreintiedig, yn gallu gwneud gwahaniaeth a dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Drwy fynd ar y daith gerdded dwi hefyd yn gobeithio canfod gwell dealltwriaeth ohonof fy hun a'm perthynas ag eraill.
Dwi'n mwynhau cwmni ac yn edrych ymlaen at wneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau.
Bydd deg ohonom o wledydd Prydain yn cerdded a deg o wledydd fel Kenya, El Salvador a Brasil.
Gobeithio dysgu mwy Dwi'n gobeithio dysgu mwy sut mae newid hinsawdd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau tlotaf y byd a sut i hyrwyddo neges cyn bwysiced a dylanwadu ar wleidyddion a phobl sy'n gwneud penderfyniadau yn y byd.
Bydd hefyd yn gyfle gwych, drwy gerdded gyda'n gilydd, i weld sut mae gweithredoedd personol yn gallu gwneud gwahaniaeth yn y byd.
Mae'n ymrwymiad personol i mi a fy nheulu - fy ngwraig Mali, a'n tair merch, Elin, Gwenno a Mari.
Nhw hefyd yw'r ysbrydoliaeth a'r y prif ysgogiad yw meddwl sut fyd fyddai'n drosglwyddo i'm tair merch a'u cenhedlaeth hwy.
Mae newid hinsawdd eisoes yn digwydd. Rydyn ni'n gwybod y bydd tymheredd y byd yn codi ac y bydd stormydd eithafol yn rhai rhannau o'r byd a sychder eithriadol mewn rhannau eraill.
Os y gweithredwn ni nawr, gyda'n gilydd, gallwn leihau'r effaith. Dyna'r neges y gobeithiaf ei chyhoeddi ar y daith.
Nerfus? Ydw mae'n siŵr. Ond rwy'n gerddwr profiadol ac yn ysu am gael cychwyn - ymlaen â'r her!
I brif ddalen y daith
 |  |  |  |
|  |
 |
 |
|