BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Guto Prys ap GwynforDyfodiad y goleuni
Gwasanaeth Nadolig BBC Radio Cymru 2006
Dyfodiad y goleuni - rhan olaf cyflwyniad y gweinidog
  • I'r ddalen flaenorol

    Dyfodiad y goleuni
    Sylwadau terfynol y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor


    gwrandoar Guto Prys ap Gwynfor
    neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:


    Drwy'r hanesion hyn y mae dyfodiad y goleuni i ganol y tywyllwch yn chwarae rhan bwysig.
    Yn yr hanes yn ôl Luc daw'r 'llu nefol' â gogoniant yr Arglwydd yn disgleirio ar feysydd Bethlehem liw nos.

    Llu Nefol
    Mae'n ddiddorol sylwi ar ddefnydd yr Hen Destament o'r ymadrodd 'llu nefol' - fe'i ddefnyddir i ddynodi'r sêr a'r planedau, ac yn aml y mae awduron yr ysgrythurau yn sôn am foliant y Cread i gyd.

    Dywed Luc, felly, fod y Cread oll yn moli Duw ac yn canu clodydd iddo oherwydd y digwyddiad hwn ar ddydd Nadolig sy'n mynd i newid hanes.

    Yna yn yr hanes yn ôl Mathew mae'r seren yn ymddangos yn y Dwyrain; ac wrth astudio'r ffurfafen yn nhywyllwch y nos mae'r magoi, neu'r doethion, yn dod ar draws yr hyn sy'n cynrychioli'r newyddion da.

    Pwyslais ar y goleuni
    Trwy'r hanesion y mae'r pwyslais fod goleuni Duw yn torri mewn i ganol tywyllwch y ddynoliaeth. Dyna bwyslais Ioan ar ddechrau ei efengyl, sef y darn a ddarllenwyd yn awr.

    Wrth sôn am hanes y Creu y mae awdur Llyfr Genesis, yn adnodau agoriadol y Beibl, yn datgan:
    "Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A dywedodd Duw, 'Bydded goleuni'. A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch."

    Cyn bod Duw yn ymyrryd, meddai, tywyllwch ac anhrefn sy'n bodoli -nid oes yno fywyd, ac mae'r cyflwr yn adlewyrchiad o anobaith.

    Y peth cyntaf a wnaeth Duw er mwyn dwyn bywyd i fodolaeth yw creu goleuni - a hynny sylwch cyn iddo greu yr haul a'r lleuad, a ddaeth i fod ar y pedwerydd dydd!

    Goleuni Duw
    Nid yw goleuni Duw yn dibynnu ar y rheini; mae hynny'n cael ei bwysleisio drachefn ym mhennod olaf y Beibl lle dywed Ioan, awdur Llyfr y Datguddiad, wrth sôn am y Jerwsalem newydd, sy'n cynrychioli Cread Duw wedi ei adnewyddu, lle mae'r Oen, sef Iesu, yn teyrnasu:

    "...nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen. A bydd cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi."

    Tywyllwch ac anobaith
    Wrth edrych ar gyflwr ein byd ni heddiw mae'n anodd osgoi'r casgliad taw tywyllwch ac anobaith sy'n teyrnasu o hyd, a hynny o ganlyniad i'r ffaith fod y ddynoliaeth yn gwrthod dilyn Ffordd y Creawdwr, ac yn mynnu dilyn ffyrdd ei hunan drwy gamdrin y ddaear a roed i'w gofal.

    Mae trueniaid wrth y miliynnau yn cael eu hecsploetio; mae ffordd rhyfel yn cael ei hyrwyddo a'i dyrchafu gydag arfau dinistriol ac arswydus, fel y Trident, yn cael eu hystyried fel pethau da ac angenrheidiol.

    Oherwydd ei hunanoldeb mae'r ddynoliaeth yn camdrîn y blaned, yn gwenwyno ei thir, môr ac awyr sy'n dwyn ei ganlyniadau brawychus.

    Tywyllwch sy'n teyrnasu; ac yn y tywyllwch ni allwn weld na chanfod. Y mae'r byd a'r ddynoliaeth angen gwaredigaeth - mae gwir angen Gwaredwr.

    Goleuni'r Nadolig
    Ond yn y Nadolig mae goleuni Duw wedi dod i ganol y tywyllwch hwn:
    "Myfi yw goleuni'r byd" meddai Iesu amdano'i hun.

    Ynddo ef rydym yn gweld pa fath un yw'r Creawdwr, ynddo ef, y cyntaf-anedig o'r ddynoliaeth newydd yr ydym yn gweld sut y mae Duw yn dymuno inni fod.

    Daeth ef i ddangos Duw inni ac i agor y ffordd drwy ddinistr a marwolaeth i fywyd yn ei holl gyflawnder; nef newydd a daear newydd lle mae cyfiawnder yn cartrefu.

    Ffordd Iesu yw ffordd Gobaith ac mae'r Gobaith hwnnw yn dwyn llawenydd yn ei sgil. A'r newyddion da o lawenydd mawr yw bod gwahoddiad brwd i ninnau i ddilyn y Ffordd honno gydag ef.

    Gobaith a chyfeiriad
    Ar ddydd Nadolig mae Gobaith a chyfeiriad wedi dod i'n bywydau oll ac i fywyd y byd.
  • Dyna ddywed hanesion y Nadolig yn Luc a Mathew
  • Dyna ran o neges y bugeiliaid a'r doethion.
  • Dyna sy'n gwneud dathliad y Nadolig yn ddigwyddiad mor llawen.

    Cofiwn ninnau yn yr oedfa hon fod y wawr wedi torri ar fwy nag un ystyr ar ddydd Nadolig - mae'r goleuni wedi dod i'n byd, mae'r Gwaredwr wedi dod i'n plith.

  • Cliciwch
  • i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy