BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Naomi KleinBarn Naomi Klein
Jeff Williams yn sgrifennu o gynhadledd newid hinsawdd Copenhagen

Bore Sadwrn, Rhagfyr 12
"Wyneb yn wyneb â newid hinsawdd mae'r byd fel y Titanic lle mae gan rai fadau achub a'r lleill ddim."

Dyna ddwedodd Naomi Klein, yr awdures a'r ymgyrchydd enwog, fore Gwener mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymorth Cristnogol yng Nghanolfan Bela.

'Cyfiawnder Hinsawdd'
Roedd yr ystafell fawr dan ei sang i wrando ar banel o arbenigwyr yn trafod "Cyfiawnder Hinsawdd o Copenhagen" a llongyfarchodd Klein y mudiad am fod ar flaen y gad yn hyrwyddo'r syniad o gyfiawnder yn y drafodaeth ar newid hinsawdd.

"Mae'n amlwg yn fater o gyfiawnder," meddai, "am fod ffordd o fyw pobl mewn gwledydd cyfoethog yn effeithio ar fywydau pobl mewn gwledydd tlotach.

Cyfoethogion New Orleans
Soniodd am y sefyllfa adeg trychineb New Orleans pan oedd y bobl â'r modd ganddynt yn gallu gyrru i ffwrdd yn eu ceir i fannau diogel ac yn aros mewn gwestai ond y tlotaf yn gorfod aros am gymorth neu foddi - "aparteit hinsawdd".

Soniodd hefyd am y 'ddyled hinsawdd', sydd wedi datblygu'n gysyniad mawr yn y gynhadledd hon, sef bod ganddo ni, yn y gwledydd datblygedig, gyfrifoldeb moesol i dalu nôl i'r gwledydd tlawd, am y niwed rydyn ni wedi wneud iddyn nhw.

Ond soniodd hefyd bod arwyddion gobeithiol yma, a bod Bolifia yn un o'r gwledydd hynny sy'n cynnig cyfraniad adeiladol a gweledigaeth i'r trafodaethau.

Costau ailadeiladu
Roedd Tom Athanasiou, o ecoequity hefyd yn siarad yn y cyfarfod, ac yn dweud y gallai'r byd fod yn wynebu $22 triliwn o gostau ailadeiladu yn unig, petai lefel y môr yn dal i godi ar y raddfa bresennol.

Mae ecoequity yn edrych chwilio am atebion byd-eang realistig i her newid hinsawdd. Her anferth ond un sy'n rhaid ei wynebu.

.

Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy