BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Draig Las Prostest y Don yn LlundainYmchwydd y don
Jeff Williams yn ymuno â Phrotest y Don yn Llundain
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 5 2009 - Protest y Don, Llundain
Mae'r daith i Copenhagen wedi dechrau o ddifrif heddiw wrth i mi ymuno â rhyw 40,000 o bobl ar strydoedd Llundain i alw ar Lywodraeth San Steffan i gymryd camau i atal anhrefn hinsawdd.

Roedd pawb yn gwisgo glas fel symbol o afon yn llawn o ddŵr croyw glân neu efallai y tonnau dinistriol a ddaw yn sgil newid hinsawdd.

Roedd rhai hyd yn oed wedi paentio eu wynebau a lliwio eu gwalltiau yn las!

Jeff Williams ymhlith y gorymdeithwyr yn Llundain Daeth nifer dda o Gymry i Brotest y Don i helpu ffurfio cadwyn o bobl o gwmpas y Senedd.

'Roedd y gadwyn o leiaf ddwy filltir o hyd rwy'n siŵr ac ymhlith y Cymry roedd Dai y Ddraig Las - a lwyddodd i dynnu sylw'r holl dorfeydd drwy strydoedd Llundain. Bydd Dai hefyd yn teithio i Copenhagen ac rwy'n gobeithio bod yno i'w groesawu.

Pwrpas y digwyddiad heddiw oedd galw ar Brif Weindog y Deyrnas Unedig i gario neges gref i'r Uwchgynhadledd yn Copenhagen: cytundeb i ymrwymo gwledydd y byd i dorri allyriannau carbon a chynorthwyo gwledydd llai datblygedig i addasu i newid hinsawdd a datblygu mewn modd cynaliadwy.

Un targed ry'n ni'n galw amdano yw torri 80% o allyriannau carbon y byd erbyn 2050.

Fe'm sobrwyd i wrth weld cwestiwn ar grys T un o wirfoddolwyr ifanc Cymorth Cristnogol yn yr orymdaith y prynhawn yma:

"Pa mor hen fyddi di yn 2050?"

Roedd hyn yn f'atgoffa bod yr ymgyrch hon ar gyfer heddiw a'r cenedlaethau sydd i ddod.

Wel, rwyf wedi blino nawr ac mae cam nesaf y daith ar yr Eurostar yn dechrau'n blygeiniol fory.
Felly nos da!


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy