BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Jeff WilliamsCopenhagen - pacio
Dyddiadur Copenhagen Jeff Williams
Dyw pacio ddim yn beth anghyffredin imi. Ond fel arfer pacio ar gyfer gwledydd twym ydw i - y tro hwn, siwmperi a sannau cynnes sydd eu hangen!

Ers gweithio gyda Chymorth Cristnogol, rwy wedi ymweld a gweithio mewn 16 o wledydd ond hwn fydd fy ymweliad cyntaf â Denmarc.

Dyma leoliad Uwch Gynhadledd y Cenehdloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. A Copenhagen fydd pen y daith.

Diflas - neu'n gerrig milltir
Yn fy mhrofiad i gall cynadleddau rhyngwladol fod yn bethau eithriadol o ddiflas. Er hynny, gallant fod yn gerrig milltir pwysig sy'n esgor ar bethau mawr. Bydd y trafodaethau hyn yn allweddol yn yr ymgyrch i leihau effeithiau newid hinsawdd yn ein byd.

Rwy wedi bod yn rhan o ymgyrch Newid Hinsawdd Cymorth Cristnogol ers y dechre a fy ngobaith mawr yw y ceir cytundeb byd-eang yn Copenhagen fydd yn ymrwymo y gwledydd cyfoethog i fabwysiadu targedau fydd yn atal mwy o gynhesu byd-eang tra'n galluogi gwledydd tlawd i ddatblygu'n gynaladwy.

Dilyn a sylwedbu
Tra yn Copenhagen, mi fyddai'n cynorthwyo tîm Cymorth Cristnogol i ddadansoddi a sylwebu ar y trafodaethau. Byddaf hefyd yn saethu fideos a thynnu lluniau o'r gweithgareddau yno, ac yn cofnodi'r daith ar y blog hwn.

Mae'r cês bron yn barod, a minnau'n barod i gychwyn. Pythefnos yn oerfel Sgandinafia o'm blaen gyda mymryn o hiraeth am haul gorllewin Affrica!

Gobeithio cewch chithau fymryn o flas y daith.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy