BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
yn y stabalGŵr y Llety
Gweld bai ar Ŵr y Llety
Rhannau o ail oedfa tymor yr Adfent 2007 gan John ac Eluned Rowlands - darlledwyd 9 Rhagfyr 2007 ar BBC Radio Cymru.

Darlleniad
(Luc 2: 1-7)
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstws i gofrestru'r holl Ymerodraeth. Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwnnw pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria.

Aeth pawb felly i'w gofrestru, pob un i'w dref ei hun. Oherwydd ei fod yn perthyn i dy a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem, i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi: ac yr oedd hi'n feichiog.

Pan oeddent yno, cyflawnodd yr amser iddi esgor, ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.

Cyflwyniad - John
Camgymeriad gŵr y llety
A dyna ni wedi clywed am gamgymeriad mawr Gŵr y Llety ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Ef - a'i wraig, os ydan ni i gredu'r hanesion sydd wedi tyfu o'u cwmpas - wrthododd roi stafell gysurus i ddau o Nasareth ar noson bwysig yn hanes y byd.

Yn ystod cyfnod y Cofrestru, roedd Bethlehem yn berwi o bobol, ac roedd ei westy'n llawn. Roedd pob llofft wedi ei llogi. Roedd ganddo lond tŷ o bobol i'w bwydo a'u tendio.
Ac asynnod i'w dyfrio, yn siŵr o fod. Petai'n cadw gwesty heddiw, buasai wedi gorfod gosod arwydd 'No vacancies' yn y ffenest ffrynt, ac wedi rhoi'r gorau i dderbyn bwcings dros y we.

Gallasai fod wedi codi crocbris am bob ystafell, ac yna eistedd yn ôl a chyfri'r elw. Fyddai dim ots, wedyn, petai hi'n gwneud ha' gwlyb - buasai ar ben ei ddigon, wedi derbyn ei gyfle mawr gyda dwylo agored.
A phwy allai ei feio?

Neu, yn hytrach, pwy sydd yn beio Gŵr y Llety?

Dydi Gŵr y Llety ddim yn cael ei enwi na'i ddisgrifio na'i feirniadu yn y stori gan Luc.
"Am nad oedd lle iddynt yn y gwesty," - dyna mae'r efengyl yn ei ddweud.

O gwmpas hynny y tyfodd y stori am y gŵr blin sy'n dod i'r drws yn hwyr y nos ac yn dweud wrth y cwpwl blinedig y byddai'n rhaid iddyn nhw fynd i chwilio am lety i rywle arall.

Mae'n bosibl iawn fod yna sawl Gŵr y Llety ym Methlehem wedi dweud yr un peth wrth Mair a Joseff 0- ac ambell un wedi gwrthod codi o'i wely ac agor y drws iddyn nhw, hyd yn oed.

A ydi hi'n bosibl ein bod ni wedi bod yn llawer rhy negyddol a llawdrwm wrth feddwl am Ŵr y Llety?

Wedi'r cyfan, nid dweud 'Na' pendant a dideimlad wnaeth hwn wrth Mair a Joseff.

Dweud yn ddigon onest ac agored na fedrai wneud dim ynglŷn â rhoi ystafell iddyn nhw - ond dweud hefyd ei fod yn fodlon gwneud y nesa' peth at hynny, sef rhoi ei stabal neu ei feudy neu ei gwt allan iddyn nhw.
A hynny heb wybod pwy oedd y rhain, na mawredd y babi bach yng nghroth y ferch ifanc.

Mae hi'n hawdd - yn rhy hawdd - i ni, wrth edrych yn ôl a gweld cyfanrwydd y stori, i feirniadu Gŵr y Llety. Os rhywbeth, mae o i'w ganmol am roi to o gwbwl i'r teulu bach ar noson oer. Am wneud yr hyn oedd yn bosib dan yr amgylchiadau.

Am weld angen cwpwl ifanc. Am drugarhau. A gododd o rent arnyn nhw y noson honno?

Mae'n amhosibl i ni wybod hynny, ond dychmygwch ei ymateb pan ddechreuodd yr ymwelwyr gyrraedd - y bugeiliaid, y seryddion o'r Dwyrain, angylion ... a beth am y seren honno fu'n hongian yn yr awyr uwchben ei racsyn o adeilad tlawd?

Petai'n rhedeg gwesty heddiw, dyna beth fyddai hysbyseb gwerth ei gael. Oherwydd, pan wrthododd pawb arall roi llety i rieni Iesu Grist, roedd yna un - dim ond un - yn fodlon codi o'i wely a'u tywys i'r unig le oedd ganddo.
A fyddech chi wedi gwneud hynny?

Darlleniad - Eluned
Y Geni gan I D Hooson

Gweddi - Eluned
Mae hi mor hawdd edrych yn ôl a gweld yr hyn ddylid fod wedi ei wneud.

Mae hi'n llawer anos gweld yn glir pan ydan ni yn ei chanol hi, yn wynebu penderfyniadau ar y pryd, a rhai o'r rheiny ymhell o fod yn hawdd.

Wrth bwyso a mesur sefyllfa, gadewch i ni bob amser chwilio am gyfle i weithredu er lles ac yn anhunanol, fel Gŵr y Llety.
Amen.

John:
Wrth gwrs, petai Gŵr y Llety wedi rhoi ystafell orau'r ty i Mair a Joseff ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, fyddai neges y stori ddim yr un.

Mae'r ffaith fod Mab Duw wedi ei eni mewn stabal tlawd, yng nghanol yr anifeiliaid, heb ddillad crand na theganau na chrud, yn ddarlun trawiadol a phwysig iawn.

Fe ddaeth i'r byd yn dlawd - nid efo llwy arian yn ei geg. Nid i balas, ond i ganol gwair. Ac yn fwy na hynny, fe ddaeth pobol o bob haen o gymdeithas yno ynghyd i'w weld o - yn fugeiliaid gwladaidd ac yn wyr doeth a chyfoethog.

Nid gwneud cam â Iesu Grist wnaeth Gwr y Llety, ond rhoi sylfaen i'w holl weinidogaeth.

Darlleniad - Eluned
(Rhufeiniaid 12: 9-17)

Darlleniad - John
Y Geni - Sion Aled

. Gweddi - Eluned
Wyddom ni ddim pwy ddaw i guro ar y drws, na phryd y dôn' nhw. Weithiau, fe ddônt â newyddion da liw dydd; dro arall dônt yn llaw gwewyr a gwae liw nos.

Y gamp ydi cofleidio'r cyfle sy'n dod yn sgîl y ddwy gnoc. Gobeithio fod yna ddeunydd Gwr y Llety ynom ni, bob un.
Amen.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy