 | Newidiwyd diwethaf: 25
Ebrill
2006
|
 |  |  | |  |  | Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Gwlad Pwyl ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp A:v Ecuador 09 Mehefin 2000 BST, Gelsenkirchen
v Yr Almaen 14 Mehefin 2000 BST, Dortmund
v Costa Rica 20 Mehefin 1500 BST, Hanover
Roedd Gwlad Pwyl ar frig grŵp rhagbrofol Cymru am y rhan fwyaf o'r gemau rhagbrofol.
Ac er i Loegr gamu i'r brig a chipio lle yn Yr Almaen yn hwyr yn y dydd, llwyddodd y Pwyliaid i sicrhau lle fel un o'r timau gorau yn yr ail safle.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Gwlad Pwyl i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 1974 - y tro cyntaf ers 1938 iddynt gyrraedd y bencampwriaeth - a synnwyd y byd pêl-droed wrth iddynt drechu'r Ariannin, Yr Eidal, Sweden, Yugoslafia a Brasil a gorffen yn drydydd.
Ond wedi cyrraedd Cwpan y Byd 1978, 1982 ac 1986 - a gorffen yn drydydd am yr ail dro ym 1982 - ni lwyddodd y Pwyliaid i gyrraedd Cwpan y Byd eto tan 2002.
Sêr y tîm: Mae priofiad yr amddiffynnwr, Tomasz Klos, yn allweddol ac er ei fod bellach yn chwarae i Wisla Krakow, mae wedi treulio amser ag Auxerre yn Ffrainc yn ogystal â Kaiserslautern a Cologne yn Yr Almaen.
Mae goliau Tomasz Frankowski wedi sicrhau ei le fel ffefryn y cefnogwyr ac yn ysbrydoliaeth ar gyfer ei lysenw - "Yr Heliwr Goliau".
Barn BBC Cymru'r Byd: Fe ddylai Gwlad Pwyl orffen yn ail yn y grŵp tu ôl i'r Almaen, ond mae'n annhebygol byddent yn camu ymhelach wrth iddynt orfod wynebu Lloegr neu Sweden yn yr ail rownd.
 |  |  |  |
| |