 | Newidiwyd diwethaf: 09
Mai
2006
|
 |  |  | |  |  | Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Costa Rica ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp A:v Yr Almaen 09 Mehefin 1700 BST, Munich
v Ecuador 15 Mehefin 1400 BST, Hamburg
v Gwlad Pwyl 20 Mehefin 1500 BST, Hanover
Mae Costa Rica yn ffyddiog o allu creu sioc yn Yr Almaen, er iddynt ddod allan o'r het yn yr un grŵp â'r tîm cartref.
Nid yw'r LosTicos erioed wedi herio'r Almaen, maent wedi colli ar y ddau achlysur iddynt herio Gwlad Pwyl ac unwaith erioed maent wedi llwyddo i drechu Ecuador.
Cymrodd Alexandre Guimaraes yr awenau am yr ail dro yng nghanol y gemau rhagbrofol wrth i'r tîm orffen yn drydydd yng ngrŵp rhagbrofol Gogledd America a'r Carîbî.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Costa Rica i gyrraedd yr ail rownd yng Nghwpan y Byd 1990, y tro cyntaf erioed iddynt gyrraedd y bencampwriaeth, wedi iddynt drechu'r Alban a Sweden.
Yn 2002 methodd LosTicos â chamu ymlaen gan orffen â gwahaniaeth goliau gwaeth na Thwrci yn y grŵp agoriadol.
Sêr y tîm: Paulo Wanchope yw'r chwaraewr enwocaf i ddod o Costa Rica, ac ef yw prif sgoriwr Los Ticos ac, wedi cyfnodau â Derby County, West Ham a Manchester City yn Lloegr a Malaga yn Sbaen, mae Wanchope yn chwarae i glwb Al Gharfa yn Qatar.
Walter Centeno sydd yn rheoli'r chwarae yng nghanol cae i Costa Rica, ac er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i yrfa â chlwb Saprissa yng Nghosta Rica, cafodd dymor ag AEK Athens yn 2002/03.
Barn BBC Cymru'r Byd: Nod Costa Rica fydd cyrraedd yr ail rownd a bydd eu hail gêm o'r grŵp yn erbyn Ecuador yn holl bwysig os ydynt am gyflawni'r gamp.
 |  |  |  |
| |