BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Athletau

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 15 Mawrth 2011

Gemau Olympaidd ar y gorwel i Williams

Er yn edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd, dywed Rhys Williams mai Pencampwriaethau Athletau'r Byd fydd yn hawlio eu sylw eleni.

Rhys Williams
Mae Williams yn hyderus o dymor llwyddiannus gyda Pencampwriaeth y Byd yn cael eu cynnal yn Daegu yn Ne Corea ym mis Awst.

Erbyn y daw'r pencampwriaethau i ben fe fydd llai na blwyddyn nes bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau yn Llundain.

"'Dwi methu aros," meddai Williams, wrth edrych ymlaen at Gemau Llundain.

"Mi fydd y teulu yn gallu dod i fy ngwylio ac yn 2008 fe wnes i golli'r Gemau Olympaidd oherwydd anaf.

"Mae'n realiti nawr - does dim yn hir i fynd.

"Ond tydw i ddim yn meddwl llawer amdano. Mae Pencampwriaeth y Byd y flwyddyn ac mae 'na lawer mwy i feddwl amdano."

Cipiodd Williams arian yn y 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona y llynedd.

Ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn bu'n rhaid iddo fodloni gydag efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi.

Ei gyd-Gymro Dai Greene gipiodd yr aur yn y ddwy ras ac fe mae Williams wedi ei dargedu fel y dyn i'w guro.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy