BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Athletau

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 21 Rhagfyr 2010

Williams yn ymuno gyda hyfforddwr newydd

Mae Rhys Williams wedi penderfynu gadael stabl Malcolm Arnold yng Nghaerfaddon wrth iddo baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2012.

Rhys Williams
Roedd Williams, enillodd fedal arian ym Mhencampwriaeth Ewrop ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn y 400m dros y clwydi, wedi bod yn ymarfer ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Ond yn awr mae Williams wedi ymuno gyda'r hyfforddwr Dan Pfaff yn Llundain wrth iddo edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Byd y flwyddyn nesaf yn ogystal â'r Gemau Olympaidd.

"Mae'n deillio o'r awydd i wella," meddai Williams. "Mae 22 mis tan y Gemau Olympaidd a dyma oedd y cyfle olaf i mi newid cyn y Gemau.

Mae Pfaff wedi hyfforddi'r cyn-bencampwr Olympaidd dros 100m, Donovan Bailey ac wedi cynorthwyo yn adfywiad Christian Malcolm.

Mae Williams, sydd yn 26 oed, wedi byw yng nghysgod ei gyd-Gymro Dai Greene yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Sicrhaodd Greene fedalau aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona ac yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi.

"Does 'na ddim llawer o bobl fyddai'n ennill medal Ewropeaidd a'r Gymanwlad na fyddai'n fodlon gyda hynny," meddai Williams.

"Ond tydw i ddim y math yna o gymeriad a byddwn i ddim yn rhai gorau iddi nes byddwn wedi cyflawni be 'dwi mo'yn."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy