TNS yn mynd i'r brig
17 Medi 2005
Methodd Y Drenewydd â chadw eu record 100% wrth iddynt golli 3-1 gartref yn erbyn Aberystwyth ac i rwbio halen i'r briw, maent yn disgyn o frig y tabl wedi buddugoliaeth TNS. Roedd goliau gan Jonathan Rees, Stuart Roberts a gôl trwy ei rwyd ei hun gan Danny Barton yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i Aber. Rhwydodd Marc Lloyd-Williams dair gwaith wrth i TNS drechu Caerfyrddin ar Y Dreflan. A llwyddodd Paul Roberts i rwydo gôl fuddugol yn y funud olaf yn erbyn ei gyn glwb wrth Fangor drechu Porthmadog 2-1 ar Y Traeth. Cipiodd Airbus UK eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor oddi cartref diolch i gôl Dave Hughes yn yr ail hanner yn erbyn Caernarfon. Mae Derwyddon Cefn yn parhau heb fuddugoliaeth wedi gêm ddi-sgôr yn Hwlffordd a chafodd Port Talbot a Chaersws gêm ddi-sgôr ar Heol Victoria.
Llwyddodd Y rhyl i anghofio eu colled yn werbyn Cwmbran wythnos diwethaf wrth chwalu Quins y Grange 5-1 ar Belle Vue.
Ac mae tymor siomedig Llaneli yn parhau wrth iddynt golli 1-0 yn erbyn Cwmbran tra bo'r Trallwng wedi trechu Cei Connah 4-1.