Bangor 2-4 Y Rhyl (way)
13 Medi 2005 Goliau yn amser ychwanegol gan Andy Moran a Lee Hunt sirchaodd le Y Rhyl yn rownd wyth olaf Cwpan Loosemore y Gynghrair. Yr oedd y gêm ym Mangor wedi gorffen yn gyfartal, 2-2, ar ddiwedd y 90 munud gyda'r tîm cartref wedi brwydro'n ôl. Roedd Rhyl wedi bod ar y blaen ar yr egwyl gyda Paul O'Neill yn rhoi'r bêl yn rhwyd ei hun ac yna Tommy Mutton yn dyblu mantais yr ymwelwyr. Wedi'r hanner amser fe ddaeth Bangor yn fwy fwy i fewn i'r gêm gyda Carl Lamb yn sgorio i wneud hi'n 2-1 cyn i Kevin Scott wneud hi'n gyfartal a sicrhau amser ychwanegol.

|