Bae Caerdydd

Taith o gwmpas lleoliadau ffilmio cyfresi Doctor Who a Torchwood ym Mae Caerdydd gan gynnwys adeiladau Canolfan y Mileniwm a'r Senedd.
Mae'r daith hon ar y gwastad. Ar y diwedd mae opsiwn B yn rhoi'r dewis i fynd ymhellach neu opsiwn A i ddychwelyd i fan cychwyn y daith. Mae sawl maes parcio talu ac arddangos tocyn ym Mae Caerdydd, dilynwch yr arwyddion ar ôl cyrraedd y Bae.
Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.
1. Sgwâr Mount Stuart

Ar y sgwâr hwn y ffilmiwyd Doctor Who 'Rise of the Cybermen' a 'Age of Steel'
2. Canolfan Mileniwm Cymru

Yma ffilmiwyd Doctor Who 'New Earth'
3. Plass Roald Dahl a'r tŵr dŵr

Mae Plass Roald Dahl wedi ei enwi ar ôl yr awdur llyfrau plant gafodd ei eni yng Nghaerdydd
4. Y Senedd

Yn Neuadd y Senedd y ffilmiwyd Doctor Who 'The Lazarus Experiment'
5. Atradius

Dyma lle ffilmiwyd Doctor Who 'The Runaway Bride' gyda Catherine Tate
6. Cei y Fairforwyn (Mermaid Quay)

Mae llawer o olygfeydd o Torchwood a Doctor Who wedi eu ffilmio ar y stryd ac yn y tai bwyta
7. Gwarchodfa Gwlypdiroedd Bae Caerdydd

Mwynhewch y golygfeydd a gwylio byd natur
Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.




