Cerdded yng Nghymru
Mwynhewch grwydro rhai o drefi Cymru ar y teithiau hyn. Mae pob un o'r llwybrau yn rhai y gellir eu gwneud mewn llai na dwy awr, yn bennaf ar y gwastad ac yn gyraeddadwy i rai mewn cadair olwyn, oni nodir yn wahanol. Mae i bob llwybr cerdded opsiwn A (hawdd) a B (ychydig yn hirach).

Teithiau
Conwy

Taith o gwmpas tref Conwy, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, Tŷ Aberconwy, Plas Mawr a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Yr Wyddgrug

Llwybr sy'n eich tywys o gwmpas llefydd o bwys yng ngwaith a bywyd y nofelydd Daniel Owen ac adeiladau hanesyddol eraill tref Yr Wyddgrug.
Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas tref Machynlleth, y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.
Penfro - Taith y Normaniaid

Ewch nôl mewn hanes i gyfnod y Normaniaid gyda thaith o gwmpas Penfro, gan ymweld â Llyn y Felin, y castell a waliau'r dref.
Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol, gan ymweld â rhai o leoliadau ffilmio'r gyfres.
Bae Caerdydd

Llwybr lleoliadau Doctor Who a Torchwood gan gynnwys adeiladau'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm.
