 |  |  | Trenau Dyma wybodaeth am y trenau sy'n gwasanaethu canolbarth Cymru a thu hwnt. Ceir cysylltiadau i amserlenni, prisiau tocynnau a mwy. |  |  |
 | National Rail Enquiries Mae'r wefan yn cynnig gwybodaeth am yr holl gwmnïau trenau ac yn galluogi defnyddwyr i archebu tocynnau a chynllunio teithiau. Gwefan: www.nationalrail.co.uk Ffoniwch: 08457 484950
Wales & Borders Trains Mae'r cwmni yn rhedeg gwasanaeth ar draws Gogledd Cymru a'r Gogledd Orllewin. Gwefan: www.walesandborderstrains.co.uk Ffoniwch: 029 2043 0090
Heart of Wales Amserlenni, mapiau rhyngweithiol a gwybodaeth am atyniadau ar hyd y llinell 'Heart of Wales' sy'n rhedeg o'r Amwythig, i lawr trwy ganol canolbarth Cymru i Abertawe. Gwefan: www.heart-of-wales.co.uk
Central Trains Yn cynnig gwasanaeth o'r Amwythig a Henffordd i orsafoedd trenau sydd ymhellach i ffwrdd. Gwefan: www.centraltrains.co.uk
Travel Line Cymru Os ydych am wybodaeth am siwrnai fyddwch chi ddim fel arfer yn ei theithio, yna mae cynlluniwr taith Travel Line yn ddefnyddiol iawn. Mae'n cynnig cyfuniad o wybodaeth am drenau a bysiau. Gwefan: www.traveline-cymru.org.uk Ffoniwch: 0870 6082608
Cymdeithas Teithwyr Trenau Amwythig i Aberystwyth Mae'r gymdeithas hon yn ymgyrchu am well gwasanaeth trenau ac adnoddau, yn hyrwyddo'r defnydd o'r linell ac yn gweithredu fel gwarchotgi i ddiogelu ei dyfodol. Mae'r wefan yn cynnig hanes y llinell reilffordd sy'n rhedeg o'r Amwythig i Aberystwyth. Gwefan: www.shrewsbury-to-aberystwyth.org.uk
Cwynion Rheilffordd Mae Pwyllgor Ymgynghorol Defnyddwyr Rheilffyrdd Cymru yn gorff defnyddwyr annibynnol a sefydlwyd er mwyn diogelu buddiannau holl ddefnyddwyr y trenau. Mae'n monitro perfformiad gweithredwyr trenau a gorsafoedd, yn canlyn cwynion, ac yn asesu'r gwasanaethau a gynigir. Cyfeiriad: St. David's House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1ES. Ffoniwch: 029 2022 7247
 |  |  |  |
| 
|