 |  |  | Porthladdoedd Er nad oes yna borthladdoedd yng nghanolbarth Cymru, mae nifer o'i thrigolion yn teithio i Abergwaun a Doc Penfro yn y de a Chaergybi yn y gogledd, gyda Mostyn ac Abertawe hefyd yn cynnig teithiau cyfleus i'r rhai yn nwyrain yr ardal. |  |  |
 | Stena Line Mae'r cwmni hwn yn cynnig gwasanaethau cyflym a superferry yn ddyddiol, i borthladdoedd Dun Laoghaire a Dulyn o Gaergybi ar Ynys Môn a rhwng Abergwaun a Rosslare. Mae gwefan Stena Line yn cynnig amserlenni, y wybodaeth hwylio ddiweddara' a gwasanaeth archebu ar-lein, neu gallwch ffonio eu llinell gymorth. Gwefan: www.stenaline.co.uk Ffoniwch: 08705 70 70 70
Irish Ferries Mae'r cwmni yn cynnig gwasanaeth o Ddoc Penfro i Rosslare ac i borthladd Dulyn o Gaergybi. Mae amserlenni, mapiau, cynlluniau cylchdeithiau, a gwybodaeth hwylio byw ar eu gwefan neu gallwch ffonio eu llinell gymorth. Gwefan: www.irishferries.ie Ffoniwch: 0870 17 17 17
P&O Mae P&O Irish Sea yn hwylio o borthladdoedd Mostyn a Lerpwl i Ddulyn. Gallwch weld amserlenni, teithiau a chael gwybodaeth archebu tocynnau ar eu gwefan. Gwefan: www.poirishsea.com
Swansea-Cork Ferries Mae'r llong yn gadael Abertawe tua 9 y nos a chyrraedd Ringaskiddy, Cork tua 7 y bore. Mae'n hwylio rhwng Mawrth a Ionawr. Gwefan: www.swansea-cork.ie Ffoniwch: 01792 456116
 |  |  |  |
| 
|