BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Sali Mali yn torri'r ruban ar gyfer agoriad swyddogolAgoriad Swyddogol Cylch Meithrin Glan y Môr
Mawrth 2006
Daeth Sali Mali i dorri'r rhuban yn agoriad swyddogol Cylch Meithrin Glan y Môr.

Ar fore Mawrth 28 Chwefror, cynhaliwyd agoriad swyddogol Cylch Meithrin Glan-y-Môr yn y caban newydd ar dir a roddwyd i'r Cylch drwy haelioni Mr a Mrs Evans, Ystrad Teilo, Llanrhystud.

Rhoddwyd y caban i'r Cylch gan y Mudiad Meithrin a derbyniwyd grantiau gan CAVO a Chyngor Sir Ceredigion er mwyn dodrefnu a diogelu'r caban i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch modern. Mae'r Cylch yn hynod ddiolchgar am bob cefnogaeth leol a gawsant. Rhoddwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Plwyf Llanrhystud a Phwyllgor Carnifal Llanon ac fe fu ysgolion Llanon a Llanrhystud yn hynod gefnogol.

Mae'r cylch yn croesawu plant o ddalgylch eang gan gynnwys Llanon, Cross Inn, Nebo, Pennant a Llanrhystud ac mae gennym ddwy aelod o staff arbennig, Mrs Karen Davies a Mrs Angharad Rees-Jones. Y mae ein diolch yn fawr iddynt am eu holl ymdrechion i sicrhau llwyddiant y cylch.

Bu Sali Mali yn difyrru'r plant â'r gwahoddedigion ar fore'r agoriad ac fe gynhaliwyd raffl lwyddiannus a noddwyd gan Fanc Barclays, Aberystwyth. Darparwyd stondin gacennau yn ogystal â lluniaeth ysgafn a mwynhaodd pawb yn achlysur yn fawr.

Mae'r cylch yn llewyrchus iawn ac yn cwrdd bob bore rhwng 9.15 - 11.15 ac yn croesawu aelodau newydd. Bydd mwy o oriau ar gael ar ôl y Pasg. Os hoffech gysylltu â'r Cylch gallwch ffonio 07816 362701.

Y tîm o rieni a fu'n ddyfal ac yn ddygn yn eu hymdrechion ynglŷn â sefydlu'r caban newydd yn gartref i'r Cylch oedd Cadeirydd - Lynda Jones Morris, Glancarrog, Llanrhystud; Ysgrifennydd - Anwen Jones, Porthmawr, Llanon; Trysorydd - Eleri Davies, Penlan, Llanrhystyd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy