Nos Wener 11 Ebrill crynhodd rhai o garedigion Neuadd Llanfarian yng nghaffi Llety Parc. Mae'r neuadd yn chwarter canrif oed a rhaid oedd dathlu'r achlysur arbennig. Evan Jones, Blaenplwyf yw un o'r ymddiriedolwyr ac mae wedi dal swyddi o bwys o'r cychwyn cyntaf. Diolchodd i bawb a ddaeth i ymuno yn y dathlu a thaflodd gipolwg yn ô1 ar hanes y trosglwyddo o'r hen i'r newydd. Bu Llanfarian yn ffodus yn ei gweithwyr brwd ac egniol ar hyd y blynyddoedd a diolchodd i'r tîm presennol sy'n gofalu am bob agwedd o weithgaredd y Neuadd a'i chadw'n ddiddos. Anfonwyd cyfarchion at Jean Evans, Rhydyfelin, Bronystwyth, un arall o'r ymddiriedolwyr sydd yn gaeth i'w chartref. Dowch i'r neuadd i gynnal unrhyw amgylchiad - mae'n fan cyfleus a diddos a bydd Ivy Jones, Awelfor yn barod i gwrdd â'ch gofyn. Rhwydd hynt i Neuadd Llanfarian yn y dyfodol.
 |