BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Iolo Williams
Iolo Williams

Ganwyd: 1962

Magwyd: Llanfair ym Muallt

Addysg: Ysgol Uwchradd Llanfyllin


Adarwr sydd yn gyn swyddog gyda'r RSPB cyn troi yn gyflwynydd teledu ar fywyd gwyllt

"Yr hyn dw i wastad yn dweud am fy swydd, yw fy mod yn cael fy nhalu i wneud fy hobi"

Taflen Yma i Chi!Yma i chi!
Cewch weld Iolo yn Nolgellau dydd Sul yma.
Ganwyd Iolo Williams yn Llanfair ym Muallt ym 1962, a threuliodd y tair mlynedd cyntaf o'i fywyd ym mhentref Beulah. Pan gafodd ei dad ei benodi yn brifathro Ysgol gynradd Eglwys Wen, symudodd y teulu i Sir Benfro. Dychwelodd y teulu i Bowys pan oedd Iolo yn bum mlwydd oed, a bu'n byw yn Llanwddyn ger Llyn Efyrnwy.

Mynychodd ysgol gynradd y pentref cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Llanfyllin, lle safodd dwy arholiad Lefel A, mewn Bioleg a Ffrangeg (a gwnaeth yn wael iawn yn y ddwy, meddai.)

Bu bron i Iolo ymuno â'r fyddin pan oedd yn ei arddegau, ond aeth i astudio Ecoleg yn y coleg yn Llundain. Ar ôl graddio, cafodd swydd yn gweithio ar fferm am wyth mis, yna treuliodd gyfnod yn gweithio yn y diwydiant coed.

Ym 1985 cafodd Iolo swydd gyda'r RSPB a threuliodd y 14 mlynedd nesaf yn gweithio i'r mudiad. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau - ar y teledu, y radio a'r papurau newydd yn y cyfnod yma, a gwneud enw iddo'i hun fel arbenigwr blaenllaw ar adar yng Nghymru.

Daeth ei brif gyfle i wneud enw iddo'i hun ar y teledu ym 1997, pan aeth BBC Cymru ato a'i wahodd i weithio ar gyfres newydd o'r enw Visions of Snowdonia oedd yn dilyn bywydau chwe o bobol yn byw ac yn gweithio ar lethrau'r Wyddfa. Cafodd gynnig ail gyfers, y tro yma 'Birdman' ac mae'r enw Dyn yr Adar wedi aros gyda Iolo ers hynny.

Ym 1999, penderfynodd Iolo adael yr RSPB a dilyn gyrfa llawn amser yn y cyfryngau. Ers hynny, bu'n gweithio ar sawl cyfres arall gyda BBC Cymru, gan gynnwys Wild Wales, Wild Winter a Iolo's Special Reserves a Natur Wyllt. Mae Iolo hefyd wedi cyflwyno rhaglenni gan gwmni telesgop ar S4C, gan gynnwys Gwyllt ar Grwydr.Ym mis Gorffennaf 2003, cerddodd y cyflwynydd 270 milltir fel rhan o Apêl S4C i godi arian ar gyfer dau hosbis i blant Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, o Ogledd Cymru i'r De mewn un ar ddeg niwrnod.

Yn ystod 2003 - 2004 mae'r cyflwynydd yn gweithio ar gyfres arall ar gyfer BBC Cymru yn edrych ar hanes naturiol ein gwlad.

Cyhoeddodd lyfr hefyd ar gyfer Nadolig 2003 o'r enw 'Blwyddyn Iolo'. Ewch i ddarllen adolygiad ohono , a sgwrs gyda Iolo Williams ar safle Llyfrau Cymru'r Byd.

Mae Iolo Williams yn byw ym Mhowys o hyd ger Y Drenewydd, sydd ddim ymhell o'r lle cafodd ei fagu. Mae ganddo wraig a dau o feibion.


Cyfrannwch

Annette Strauch, Machynlleth & Yr Almaen
'Rwy'n hoffi rhaglenni Iolo!
Fri Feb 6 22:00:55 2009

Angharad Jones o Lanymddyfri
Beth yw enw Lladin am y mochyn daear?
Sun Mar 16 08:02:36 2008

Ieuan Roberts Ysgol Pendalar
Iolo - Angen cyngor plis! Bydd y gwenoliaid yn ol cyn bo hir...braf eu gweld wrth gwrs ond maent yn nythu yn yr ysgol newydd ac maent yn gwneud llanast ... sut medran ni stopio'r gwenoliaid rhag nythu yn y rhannau o'r ysgol lle mae plant yn chwarae? Cofion!
Thu Mar 13 15:03:01 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy