BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Blwyddyn Iolo gan Iolo Williams
Sylwadau Glyn Evans am lyfr y naturiaethwr a'r adarwr Iolo Williams sydd wedi cyhoeddi dyddiadur blwyddyn.


Yn ddiweddar, bu'n rhaid i gymydog gael gwared â'i fwrdd bwydo adar gwyllt o'r ardd. Am ei fod yn tynnu llygod mawr yn ôl rhyw swyddog o'r awdurdod lleol.

Cawn gadarnhad o'r broblem hon i garwyr byd natur mewn cyfrol ddifyr gan un o'n naturiaethwyr mwyaf poblogaidd.

Clawr y llyfrYn Blwyddyn Iolo mae Iolo Williams yntau yn tynnu sylw at ymddangosiad yr ymwelwyr annifyr hyn â byrddau bwydo adar.

Ond mae o'n cynnig ateb i'r broblem hefyd.

"Yr ateb . . . ydi sicrhau nad oes llawer o fwyd yn cael ei roi mewn unrhyw un pentwr ar y llawr a gofalu symud y bwrdd bwydo yn rheolaidd," meddai.

Ei gyngor gyda phiod, sy'n tueddu i ddwyn pob peth ydi; "torri popeth yn fân a thaflu llawer o'r bwyd o dan y perthi."

Rhwydd a didrafferth
Buan iawn y gwêl y darllenydd fod Dyddiadur Iolo yn llawer iawn mwy na disgrifiadau o natur wyllt. Mae'n cynnig cynghorion a gwybodaeth ymarferol hefyd ond yn gwneud hynny mewn ffordd rwydd a didrafferth gan osgoi'r argraff o fod yn werslyfr.

Drwyddo draw mae Dyddiadur Iolo yn osgoi'r trap o ymddangos yn llawlyfr neu werslyfr er ei fod yn gyforiog o bob math o wybodaeth nid yn unig am arferion creaduriaid y gwyllt ond am briodoleddau planhigion.

Yr Eirlys, er enghraifft, a blaen ei dail yn galetach ac yn gryfach na'r gweddill ohoni oherwydd y posibilrwydd cryf y bydd yn rhaid iddi wthio drwy ddaear galed pan yn tyfu.

Gwareidd-dra braf
Galwch rywun yn hen ramantydd ond y mae pobl byd natur bob amser yn bobl braf i fod yn eu cwmni.

Wedi eu bendithio â goddefgarwch tuag at greaduriaid eraill, perthyn rhyw wareidd-dra arbennig iddyn nhw er mor arw y gall natur ei hun ymddangos ar un wedd.

Cyplyser hynny a thrysorfa o wybodaeth am y byd naturiol o'n cwmpas ac mae gystal a bod yn amhosib iddynt gymryd caff gwag wrth fentro i brint wrth ddod a'r anghyfarwydd o fewn y cyfarwydd i'n sylw.

Mae hynny'n wir am Flwyddyn Iolo sydd yn barhad o draddodiad modern anrhydeddus a sefydlwyd gan T. G. Walker yn gyntaf ac wedyn, Ted Breeze Jones.

Diwyg gwahanol
Yr hyn a fyddai wedi ychwanegu at y gyfrol a'i chyfoethogi fyddai diwyg ychydig yn fwy mentrus gan Wasg Gwynedd gyda wyneb eangach i'r dalennau fel y gellid gwneud mwy o gyfiawnhad â'r lluniau lliw llawn sy'n cael eu defnyddio ddau neu dri ar y tro dros wyth dalen.

Ond o leiaf mae'r wasg wedi gwasgaru'r dalennau drwy'r gyfrol yn hytrach na'u gosod yn glwstwr yn y canol.

Byrlymu o frwdfrydedd
Ta beth, ar yr ochr gadarnhaol yr hyn a gawn yw bwrlwm o frwdfrydedd a phrofiadau am hynodion y byd naturiol mewn llyfr i bori ynddo'n hamddenol a dychwelyd ato yn hytrach na'i lowcio'n farus a'i anghofio.

Cliciwch er mwyn darllen adolygiad Emyr Williams o Blwyddyn Iolo.

Holi Iolo Williams


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy