| Roedd cyfle i bobl droi eu llaw at ddarllen y newyddion, sylwebu, gweld Tardis Doctor Who a chwrdd â rhai o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd BBC Cymru gan gynnwys Iolo Williams, Lisa Gwilym a Jonsi ac ymweld â gwahanol stondinau gwasanaethau'r BBC a'n partneriaid lleol. Ynglŷn ag Yma i Chi! Roedd prosiect Yma i Chi yn para pedair wythnos ac yn rhoi Dolgellau dan chwyddwydr y cyfryngau drwy gydol mis Mawrth ac yn rhoi gyfle i dîm y wefan gasglu cyfoeth o wybodaeth ar gyfer ein tudalennau ar gyfer Dolgellau. Roedd yn cynnwys holl wasanaethau BBC Cymru - teledu, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar-lein - gan roi sylw i bopeth o newyddion, celfyddydau ac addysg i ddrama, cerddoriaeth a chwaraeon. Ond y gwahaniaeth oedd mai'r bobl sy'n byw yn yr ardal oedd yn arwain y prosiect. Gwahoddwyd pbl leol i ddod yn rhan o'r gwaith drwy gyfrannu at raglenni, datblygu syniadau sy'n bwysig iddyn nhw ac ysgrifennu ar gyfer gwefannau'r BBC.
Roedd cael pobl leol i gymryd rhan yn allweddol i lwyddiant y prosiect a bu criw ymgynghorol o bobl leol yn brysur yn creu syniadau ar gyfer darllediadau BBC Cymru o'r ardal. Darlledwyd llawer o raglenni teledu a radio o'r dref, ac am y dref, yn ystod yr ymgyrch ac ehangwyd ein tudalennau am Ddolgellau ar y wefan hon gyda chyfraniadau gan bobl y cylch - felly diolch i chi gyd!
Fe allwch chi gael gafael at dîm Yma i Chi BBC Cymru drwy ebostio ymaichi@bbc.co.uk neu ffonio 08703 500 700.
 |