Dywedodd Rhian Wyn Williams o CAT:
"'Den ni'n bles iawn gyda'r artistiaid sydd gennym ni ar gyfer eleni. Ar y nos Sadwrn, mae Frizbee, Vanta a Gola Ola yn chwarae i lawr ar gae'r ysgol. Fe fydd y pebyll newydd yn ein galluogi ni i gynnal y digwyddiad yn yr awyr agored, felly fydd yno ymdeimlad hafaidd iawn! "Fe fydd y dafarn leol, Y Railway, hefyd yn cynnal cwis Cymraeg ar y nos Wener, a fe fydd Linda Griffiths yn perfformio set acwstig fyw yn y bar ar y pnawn dydd Sadwrn. "Rydym yn credu y bydd Tân Tanat yn fwy nac erioed eleni, ac hoffem annog pawb sy'n mwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau i ddod draw a mwynhau penwythnos gwych!" Tocynnau:
Mae tocynnau ar gyfer y gig ar y nos Sadwrn yn £7 neu £8 ar y giât ar ôl 9:00yh. Mae tocynnau ar gael o Siop Eirianfa, Penybontfawr, Tafarn Y Railway, Penybontfawr, Y Clwb Rygbi, Meifod a Siop Awen Meirion, Bala, neu drwy ffonio Elliw ar 01691 860293 neu Del ar 01691 791281. Mae mynediad i'r digwyddiadau yn nhafarn Y Railway am ddim. Gŵyl Tân Tanat 2007 Nos Wener, Mehefin 22 - 7:30yh,
Cwis Cymraeg yn Nhafarn Y Railway, Penybontfawr. Mynediad - AM DDIM. Dydd Sadwrn, Mehefin 23 -5:00yh, Set acwstig fyw gyda Linda Griffiths yn Nhafarn Y Railway, Penybontfawr. Mynediad - AM DDIM. Nos Sadwrn, Mehefin 23 - 8:00yh, Frizbee, Vanta a Gola Ola i lawr ar gae'r ysgol, Penybontfawr. Mynediad - £7:00 neu £8:00 ar y giât ar ôl 9:00yh. Adolygiad o ŵyl Tân Tanat 2005
 |