 |  |  | Gwyliau'r Hydref Tyrfe Tawe, Gwyl Swn... Daniel Lloyd a Mr PincMae'r haf wedi gorffen am flwyddyn arall ond, na phoener, mae 'na ddigon o wyliau i'n cadw'n brysur yn ystod yr hydref... gan obeithio am dywydd gwell!!! Tyrfe Tawe Lleoliad: Amryw o leoliadau yn Abertawe Dyddiad: Hydref 12-14 Prif Grwpiau: Genod Droog, Frizbee, Fflur Dafydd, Mr Huw, Einir Dafydd a llawer mwy... Mwy o fanylion: www.tyrfe-tawe.com Mewn brawddeg: Y 4ydd tro i'r ŵyl yn ninas Abertawe gael ei chynnal... ac mi fydd hi'n un dda...! Sŵn Lleoliad: Amryw o leoliadau yng Nghaerdydd Dyddiad: Tachwedd 9-11 Prif Grwpiau: Texas Radio Band, Genod Droog, Cate le Bon, Beirut, Brigyn... Mwy o fanylion: www.swnfest.com Mewn brawddeg: Gŵyl newydd sbon wedi'i rhaglennu gan Huw Stephens fydd yn cynnwys bandiau, DJs, ffilmiau, arddangosfeydd celf a llawer mwy. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau uchod
|  |
|