
09 Awst 2010
Gall pawb deimlo'n drist, isel ei ysbryd neu wedi cael llond bol o bryd i'w gilydd; mae hynny'n rhan o fywyd.
Ond os yw'r teimladau yna'n parhau neu'n gwaethygu, mae'n bosib eich bod yn dioddef o iselder, cyflwr cyffredin iawn sy'n effeithio ar hyd at un o bob pump o'r boblogaeth ar ryw bwynt yn eu bywydau 1.
Mae cyfran o'r rhain yn mynd ymlaen i ddioddef iselder difrifol dros gyfnod hir.
Ceir sawl gwahanol fathau o iselder, ac mae yna raddfeydd o ba mor ddifrifol mae'r salwch clinigol yma'n gallu effeithio ar eich bywyd. Mae'r rhesymau dros ddatblygu'r cyflwr yn gallu amrywio'n arw. Gall ddigwydd oherwydd newidiadau yn eich bywyd fel galaru ar ôl colli rhywun, ysgaru neu golli gwaith. Weithiau, daw oherwydd eich amgylchiadau personol, os nad oes ffrindiau o gwmpas neu os yw gwaith yn achosi straen.
Mae'r prif symptomau yn cynnwys:
- Teimlo'n drist a methu gwneud unrhyw beth amdano, yn enwedig ar adegau gwahanol o'r dydd, er enghraifft yn y bore.
- Methu mwynhau unrhyw beth, er enghraifft dim awydd bwyd.
- Dim egni, methu canolbwyntio.
- Teimlo'n besimistaidd neu'n bryderus am bopeth.
- Methu cysgu.
Gall pobl sy'n byw gyda salwch difrifol arall, fel canser, fod yn fwy tueddol o ddatblygu'r cyflwr, tra bod eraill yn fwy tebygol o'i gael oherwydd eu personoliaeth neu am ei fod yn rhedeg yn y teulu: mae 'na beth tystiolaeth fod yna elfen enetig iddo hefyd. Datblyga rhai mathau o iselder oherwydd anhwylder hwyliau, er enghraifft anhwylder deubegwn (Bipolar Disorder) neu anhwylder tymhorol (Seasonal Affective Disorder). Mae'n gyffredin i ferched deimlo ychydig yn isel ar ôl geni plentyn hefyd.
Un o'r bobl gyntaf i'w gweld os ydych chi'n teimlo fod iselder yn rhan o'ch bywyd yw'r doctor. Gallwch drin iselder mewn sawl ffordd wahanol, yn dibynnu pa mor ddifrifol yw'r cyflwr a beth sy'n gweithio orau. I rai, mae hyn yn golygu cwrs o feddyginiaeth, neu gall olygu therapi i geisio delio gyda'r symptomau. Mae siarad yn tueddu i helpu pawb, boed hynny mewn grŵp neu yn unigol. I eraill, gall bethau fel gwneud mwy o ymarfer corff a darllen mwy i ddeall y cyflwr helpu.
Ffeithiau sydyn
- Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng iselder a teimlo'n drist o bryd i'w gilydd: mae iselder yn gyflwr meddygol pendant.
- Er fod rhai mathau o iselder yn anodd eu trin, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef yn gwella o'r cyflwr.
- Weithiau mae rhesymau amgylchiadol amlwg dros fod yn isel, ond weithiau tydi'r rhesymau ddim mor glir - y peth pwysig yw cydnabod fod yna broblem a cheisio cael help.
- Eich doctor yw'r person cyntaf i weld os ydych chi'n meddwl eich bod yn isel.
Cysylltiadau
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Gwefan llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl. Disgrifiad o'r symptomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth. Gwybodaeth ddwyieithog yn aml.
www.rcpsych.ac.uk
Journeys
Mae Journeys gyda 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru. Dull trafod mewn grŵp i helpu gyda symptomau.
029 2069 2891
www.journeysonline.org.uk
The Mental Health Foundation
Gwybodaeth a chyngor trylwyr a chlir am iselder a chyflyrau eraill.
www.mentalhealth.org.uk
Sane
Gwybodaeth defnyddiol, gan gynnwys cyngor ar lyfrau defnyddiol i helpu gyda bob math o iselder. Llinell gymorth ar gael bob nos.
0845 767 8000
www.sane.org.uk
Mind Cymru
Gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, gall Mind roi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Gwybodaeth glir a chyfredol o'r MindInfoLine neu'r wefan.
0845 766 0163
www.mind.org.uk
APNI - Association for Post Natal Illness
Help os ydych chi'n teimlo'n isel ar ôl geni plentyn. Mae gwybodaeth i famau sydd yn y sefyllfa yma ar y wefan, yn ogystal â dolenni safonol i'w partneriaid a'u teuluoedd hefyd.
apni.org
1 Ffynhonnell: http://www.rcpsych.ac.uk/mentalhealthinfoforall/problems/
depression/depressionkeyfacts.aspx
Mwy
Iselder
Sut i adnabod arwyddion iselder a lle i gael help os ydych chi'n teimlo eich bod yn dioddef o iselder. This is a page in Welsh about recognising the symptoms of depression and where to get help if you feel you might be suffering from depression. Click on Vocab for help with Welsh.

