
02 Tachwedd 2010
Ar gyfartaledd mae gan dros 700,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig ryw ffurf o dementia 1. Clefyd Alzheimers yw un o'r prif resymau dros ddatblygu'r cyflwr, ond nid yr unig un.
Grŵp o symptomau yw dementia - rhai sy'n gysylltiedig â chlefydau neu gyflyrau fel Alzheimers sy'n gyfrifol am tua 65% o'r achosion 2.
Gall dementia mewn oedolion fod yn symptom o glefydau eraill fel Parkinson's, neu fel sgil effaith o afiechydon fel AIDS, meningitis neu multiple sclerosis.
Ffurf arall weddol gyffredin o'r cyflwr yw dementia fasgwlar, pan nad oes digon o waed yn cyrraedd yr ymennydd, ac wrth i'r cyflenwad gael ei atal yn y gwythiennau bychain, mae'n debyg i gael cyfres o strociau bychain 3. Mae dementia'n gallu ymddangos mewn pobl gyda phroblemau alcohol hir dymor hefyd.
Nodwedd fwyaf trawiadol dementia yw bod y galluoedd meddyliol yn gwaethygu yn gyffredinol, i gymharu â sut oedden nhw cynt. Gall hyn ddigwydd yn raddol neu'n weddol sydyn, yn dibynnu ar y rhesymau dros y dementia.
Yn aml, mae'n mynd yn anoddach i gofio a rhesymu, er enghraifft, sy'n achosi dryswch mawr nid yn unig i'r rhai sy'n dioddef ond i'r bobl sy'n gofalu amdanynt.
Ceir dirywiad mewn defnydd o iaith (aphasia) a dealltwriaeth (apaxia), a phroblemau wrth adnabod pethau a phobl (agnosia) 4.
Mae personoliaeth, tymer ac ymddygiad yn newid ac yn dirywio gyda chyflwr cynyddol fel Alzheimers. Mae'n anarferol iawn ymysg pobl ifanc o dan 55, ond mae yna gynnydd i 6% mewn pobl dros 65 oed, a bron i 20% mewn pobl dros 85 oed.
Gan fod Alzheimers yn glefyd sydd fel arfer yn effeithio ar bobl hŷn, erbyn hyn mae'n fwy cyffredin oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio. Ond mae goblygiadau'r tuedd yma yn golygu fod dementia yn mynd i fod yn fwy o broblem i gymdeithas yn y dyfodol 5, gyda'r costau yn nhermau gofal cymdeithasol yn codi.
Ffeithiau sydyn
- Mae dros 100 gwahanol fath o ddementia 6 - nid Alzheimers yw'r unig reswm dros ddatblygu'r symptomau.
- Mae dementia oherwydd Alzheimers yn broblem fyd-eang wrth i bobl fyw'n hirach 7.
- Nid yw'n anochel eich bod yn datblygu'r cyflwr pan rydych chi'n hŷn, ond mae'r siawns o wneud yn codi tipyn ar ôl cyrraedd 85 oed.
Cysylltiadau
Cymdeithas Alzheimers
Cefnogaeth a chymorth i'r sawl sy'n byw gydag Alzheimers, eu teuluoedd neu ofalwyr. Taflenni gwybodaeth yn y Gymraeg ar y wefan a changhennau i'w cael yng ngogledd a de Cymru, felly cysylltwch i gael mwy o wybodaeth am help lleol.
0845 300 0336
www.alzheimers.org.uk
Age Cymru
Mae Age Cymru yn cynnig cefnogaeth a chymorth ymarferol ar lefel leol trwy Gymru gyfan, yn ogystal â lobïo ac ymchwilio ar ran pobl hŷn. Mae mw o fanylion am weithgareddau lleol ar y wefan neu drwy ffonio'r brif swyddfa.
029 2043 1555
www.agecymru.org.uk
Croesffyrdd Cymru
Mae Croesffyrdd yn cynnig cymorth ymarferol i ofalwyr ar draws Cymru drwy roi seibiant iddynt o edrych ar ôl eraill. Ceir mwy o fanylion am gynlluniau lleol ar y wefan.
0845 450 0350
www.crossroads.org.uk
Mind Cymru
Mae gan Mind Cymru grwpiau lleol ar draws Cymru, ac maent yn cynnig gwybodaeth safonol am wasanaethau iechyd meddwl lleol a chyflyrau sy'n effeithio ar y meddwl.
0845 766 0163
www.mind.org.uk
Patient.co.uk
Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater i ymwneud ag iechyd, un sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.
www.patient.co.uk
1 Ffynhonnell: http://www.alzheimers.org.uk/site/scripts/download.php?fileID=1
2 Ffynhonnell:http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/16111436?dopt=Abstract
3 Ffynhonnell: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/Encyclopaedia/d/article/dementia?locale=cy
4 Ffynhonnell: http://www.patient.co.uk/doctor/Dementia.htm
5 Ffynhonnell: http://www.parliament.uk/documents/upload/postpn278.pdf
6 Ffynhonnell: http://www.alzheimers.org.uk/site/scripts/documents.php?categoryID=200171
7 Ffynhonnell: http://www.alz.co.uk/research/files/World%20Alzheimer%20Report.pdf
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Dementia
Eglurhad o'r cyflwr dementia a'r gwahanol ffactorau, fel Alzheimers, sy'n gallu ei achosi. This is a page in Welsh about the causes and symptoms of dementia and related conditions such as Alzheimers. Click on Vocab for help with Welsh.

