
09 Awst 2010
Dengys ffigyrau fod nifer y bobl sy'n ysgaru wedi mynd i lawr i'w lefel isaf ers 1981 1. Ond law yn llaw â'r ffigyrau yma, mae'n rhaid cofio fod yna bellach duedd i lai o bobl briodi yn y lle cyntaf, ac os ydynt yn priodi, i wneud hynny'n hwyrach mewn bywyd.
Mae cadw perthynas i fynd yn gallu bod yn gamp anodd i unrhyw un, a thros y blynyddoedd, mae newidiadau bywyd neu ddigwyddiadau penodol yn gallu creu straen o fewn unrhyw berthynas. Daw rhai cyplau i'r canlyniad nad ydynt yn gallu cyd-fyw, ac maent yn gwahanu, dim ond am gyfnod byr weithiau. Ond os ydy'r sefyllfa'n un ble mae'n dod yn amlwg nad oes unrhyw ffordd o safio'r berthynas, gall hyn arwain at ysgariad os yw'r cwpwl yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Mae ysgaru'n broses gyfreithiol ffurfiol, a rhaid i lys fod yn hapus fod y berthynas 'wedi dirywio yn anadferadwy'. Nid yw'n bosib ysgaru os ydych wedi bod yn briod am lai na blwyddyn, ac mae 'na seiliau pendant sydd yn rhaid eu profi cyn bod ysgariad yn cael ei ganiatáu.
Mae'r rhain yn cynnwys: bod y gŵr neu'r wraig wedi bod yn anffyddlon, bod 'ymddygiad afresymol' gan un ohonynt, fod encilio gan un partner wedi digwydd am o leiaf dwy flynedd. Rhesymau eraill derbyniol yw eich bod wedi bod yn byw ar wahân ers dros ddwy flynedd ac yn cytuno i ysgaru, neu eich bod yn byw ar wahân er dros bum mlynedd.
Ceir tri cham yn y broses o ysgaru. Mae'n rhaid deisebu'r llys gan roi'r rhesymau am ofyn am yr ysgariad, ac mae'r rhain wedyn yn cael eu hanfon i'r gŵr neu wraig, sy'n gorfod ymateb. Mae'r llys hefyd yn edrych ar bob agwedd o safbwynt y plant, gan gynnwys gyda phwy fyddant yn byw a sut fath o gytundeb i weld y plant fydd orau. Yr ail gam yw'r decree nisi, sy'n cael ei ganiatáu unwaith mae'r barnwyr yn hapus fod y cytundebau ariannol a thros weld y plant yn eu lle. Ceir cyfnod wedyn o chwe wythnos a diwrnod cyn ei bod yn bosib gwneud cais am decree absolute.
I'r rhan fwyaf, does dim yn hawdd am y sefyllfa, yn enwedig os oes plant wedi eu dal yn y canol. Mae gan tua hanner o'r cyplau sy'n ysgaru blant dan 16 oed, ac mae tua 60% o'r rheini dan 11 oed. Mae cytuno ar yr hawl i weld a chael cyswllt gyda'r plant yn gallu bod yn broses boenus hefyd, ac mae'n gyffredin i blant deimlo mai eu bai nhw yw popeth.
Erbyn hyn, fodd bynnag, mae yna lawer o gefnogaeth a help ar gael i unrhyw gwpwl sy'n penderfynu mai hyn yw'r unig ffordd ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o'r adnoddau yma wedi eu hanelu at oedolion, ond ceir gwybodaeth bellach hefyd i helpu pobl ifanc yn y sefyllfa yma.
Ffeithiau sydyn
- Er bod y ffigyrau cyffredinol am ysgariad wedi gostwng, maent wedi codi i ddynion dros 60 oed a merched rhwng 45 a 49 oed.
- Mae gan tua hanner y cyplau sy'n ysgaru blant dan 16 oed.
Cysylltiadau
Divorce Aid
Adnodd cynhwysfawr i bobl sy'n rhoi cyngor ar sut i helpu plant drwy'r broses hefyd.
www.divorceaid.co.uk
DirectGov - Ysgaru
Gwybodaeth bwysig am y broses ysgaru gan gynnwys ffurflenni angenrheidiol a manylion y gwahanol oblygiadau cyfreithiol.
www.direct.gov.uk/en/Parents/FamilyIssuesAndTheLaw/DG_4002976
It's not your fault
Cyngor i blant, pobl ifanc neu rieni sy'n mynd drwy berthynas sy'n chwalu.
www.itsnotyourfault.org
Wikivorce
Cyngor cynhwysfawr ac erthyglau defnyddiol am ysgaru.
www.wikivorce.com/divorce
Llinell Gyfryngu i Deuluoedd
Gwasanaeth i helpu cyplau i ddod i gytundeb heb fynd i gwrt os oes dadlau teuluol ar ôl gwahanu neu ysgaru. Mae manylion gwasanaethau cyfryngu lleol ar gael ar y wefan neu drwy ffonio'r llinell gymorth.
0845 60 26 627
www.familymediationhelpline.co.uk
Advice Now
Cyngor ar ystod o bynciau, gan gynnwys ysgaru a chyfryngu teuluol.
www.advicenow.org.uk
1 Ffynhonnell: http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=170"
Mwy
Ysgariad
Gwybodaeth ymarferol i barau priod sy'n mynd drwy ysgariad a chyngor ynglŷn â lle gallan nhw droi am gymorth. This is a page in Welsh which gives practical information to married couples who are going through a divorce and advice on where to get help. Click on Vocab for help with Welsh.

