Problemau mewn perthynas

Merch yn y gwely yn flin am fod ei phartner ar y cyfrifiadur

03 Tachwedd 2010

Tydi cynnal perthynas hirdymor ddim o hyd yn beth hawdd, ac i raddau, mae'n gwbl naturiol i bobl sydd mewn perthynas o'r fath fynd drwy gyfnodau anodd.

Er bod y ffigyrau diweddar yn dangos bod y nifer o bobl sy'n ysgaru yn gostwng 1, mae newidiadau bywyd, fel cael plant neu bwysau gwaith yn gallu achosi straen mawr ar unrhyw berthynas agos.

Dros amser, mae'n gyffredin i deimladau a disgwyliadau o bartneriaid newid, yn enwedig ar ôl y cyfnod cyntaf o fod mewn cariad, ac nid pawb sy'n addasu'n hawdd i'r newidiadau. Gall ffraeo yn aml, neu'r gwrthwyneb, sef peidio trafod pethau, fod yn arwydd fod angen cael hyd i well cydbwysedd mewn perthynas.

Yn yr un modd, daw anawsterau rhywiol neu ymdopi â phartner sydd wedi bod yn anffyddlon ar ben y rhestr o resymau pam fod cyplau yn chwalu, gan fod gallu ymddiried yn eich cymar yn bwysig iawn i'r rhan fwyaf o bobl.

Mewn achosion mwy eithafol, os oes unrhyw fath o gamdriniaeth - rhywiol, corfforol neu seicolegol/emosiynol - yna mae rheswm da dros ddod â pherthynas o'r fath i ben beth bynnag.

Mae'n ymddangos mai cyfathrebu gwael yw un o'r prif resymau dros anhapusrwydd mewn perthynas, ac erbyn hyn dangosir fod llawer o broblemau'n codi yn y 30au a 40au 2.

Yn ôl arbenigwyr mewn cynghori perthynas fel Relate, os oes problemau'n codi, mae fel arfer yn well eu hwynebu nhw'n gynnar os yn bosib; yr hiraf mae cwpwl yn disgwyl cyn gwneud rhywbeth, yr anoddach mae'n gallu bod i ddatrys pethau os oes gwir broblem wedi codi.

Ffeithiau sydyn

  • Erbyn hyn, mae 'na fwy o bobl yn cael 'argyfwng canol oed' yn eu 30au a 40au, gan gynnwys teimlo'n unig o fewn perthynas.
  • Yn aml, gwellhau'r cyfathrebu rhwng cyplau yw'r prif nod wrth gynghori cyplau sy'n cael broblemau perthynas.
  • Gwell gwynebu problemau'n gynnar os yn bosib.

Cysylltiadau

Relate Cymru

Mae Relate yn cynnig cyngor, cwnsela perthynas, cymorth teuluol, therapi rhywiol a gwasanaethau eraill dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar y we i'r sawl sy'n cael anawsterau yn eu perthynas.
0845 130 4010
relatecymru.org.uk/cy

Cyngor ar Bopeth Cymru

Mae gwefan Cyngor ar Bopeth Cymru (Adviceguide) yn darparu gwybodaeth am ystod eang o bynciau gan gynnwys cyngor ar hawliau unigolion o fewn perthynas er enghraifft parau priod, parau di-briod a phartneriaid sifil. Medrwch hefyd ddarganfod manylion eich canolfan leol sy'n darparu cyngor dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
www.adviceguide.org.uk/cy

Marriage Care

Cynigir cwnsela perthynas ac addysg perthynas trwy linell gymorth, wyneb-yn-wyneb a thros y we i'r sawl sydd yn wynebu sialensiau neu broblemau o fewn perthynas. Maent hefyd yn cynnig cefnogaeth gyffredinol i'r sawl sydd am briodi neu gychwyn ar berthynas tymor hir. Mae'r rhan fwyaf o'i gwirfoddolwyr o'r gymuned Gatholig.
0845 660 6000
www.marriagecare.org.uk

Cymorth Cyfreithiol Gymunedol

Mae CCC yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor am ddim i'r cyhoedd am ystod o faterion cyfreithiol cyffredin. Mae'n wasanaeth hawdd i'w ddefnyddio, ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, drwy linell gymorth genedlaethol neu wefan.
0845 345 4 345
www.communitylegaladvice.org.uk

Llinell Gyfryngu i Deuluoedd

Sefydlwyd y Llinell Gyfryngu i Deuluoedd i ddarparu gwybodaeth am y broses cyfryngu i helpu datrys dadleuon teuluol heb fynd i'r llys.
0845 60 26 627
www.familymediationhelpline.co.uk

1 Ffynhonnell: http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=170
2 Ffynhonnell: http://www.relate.org.uk/the-way-we-are-now/index.html


Problemau mewn perthynas

Gwybodaeth am y sefydliadau sydd ar gael i helpu cyplau sy'n cael problemau yn eu perthynas. This is a page in Welsh about the support available to couples who are experiencing problems in their relationship. Click on the Vocab button for help with Welsh.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.