bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Diwrnod y Llyfr
Diwrnod y Llyfr

Dathliadau a digwyddiadau

Mawrth 2003


Angharad TomosBydd y wrach Rwdlan o gyfres boblogaidd Angharad Tomos, Rala Rwdins, yn ymuno â phlant mewn ysgol gynradd yn ardal Pontypridd a fydd wedi'u gwisgo fel eu hoff gymeriadau o lyfrau i ddathlu Diwrnod y Llyfr ar ddydd Iau 6 Mawrth 2003.

Bydd holl blant Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg yn ymuno yn yr hwyl gan fwynhau straeon, barddoniaeth a hyd yn oed sesiwn jyglo gan Derfel Williams i'w hannog i ddarllen.

A tua chanol y bore, bydd y 200 disgybl yn ymuno â miloedd o blant eraill mewn ysgolion ledled Cymru mewn parti llefaru enfawr.


Cynhelir cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, mewn ysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, siopau llyfrau, swyddfeydd a gweithleoedd eraill ar Ddiwrnod y Llyfr 06.03.03.

Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Jenny Randerson, yn gobeithio cwrdd â phobl a fydd wedi cymryd rhan mewn stafell sgwrsio ar lein ar wasanaeth BBC Cymru'r Byd rhwng 11 a.m. a 12, gyda'r awdur Mihangel Morgan, yn Llyfrgell Bangor.

Yn Abertawe cynhelir cyngerdd am ddim yn ffreutur y brifysgol - rhwng 12.00 a 2.00 p.m. - pryd y bydd prif gyfansoddwr jazz Cymru, Paula Gardiner, a'r sacsoffonydd Daniel Williams yn cyflwyno addasiadau jazz o gerddi Dylan Thomas.

Bydd Siop Elfair yn Rhuthun yn cynnal noson glasurol yng Nghastell Rhuthun gyda Robin Llwyd ab Owain a Robert Arwyn gyda'r elw'n mynd at gangen leol MENCAP.

Mae Academi yn lansio gwaith newydd ar y cyd gan 20 o awduron Cymru - Ennill a Cholli - yn adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, rhwng 6 a 7.30pm.

Bydd Menter Coedwigaeth Cymru yn rhedeg sesiynau straeon a barddoniaeth yn Nant yr Arian, Ponterwyd, Ceredigion ac yng Nghanolfan Garwnant, Merthyr Tudful.

Yn Llancaiach Fawr cynhelir sesiwn straeon a gweithgareddau wedi'u seilio ar y ffordd yr oedd plant yn dysgu darllen yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cyhoeddir enw'r gwaith buddugol yn y gystadleuaeth Mae'r Hyn a Ddarllenwn yn Dweud Llawer Amdanom.

Yn ystod yr wythnos sy'n arwain at Ddiwrnod y Llyfr, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio llyfryn y ryseitiau a gafwyd o lawysgrifau a llyfrau ac fe gynhelir arddangosfa gysylltiedig.

Mewn parti dreigiau yn Sir Benfro, bydd draig 12 troedfedd yn anadlu tân i 'danio dychymyg y plant', bydd cwis a chystadleuaeth arlunio dreigiau, diod draig a chacen ddraig. Trefnwyd yr achlysur hwn gan Grwp Llyfrau Plant Gorllewin Cymru a bydd Graham Howells, darluniwr llyfrau plant, yn bresennol i dynnu lluniau dreigiau!

Bydd y nofelydd, y bardd a'r dramodydd Emyr Humphreys - sy'n adnabyddus fel 'prif ddehonglydd bywyd Cymru yn Saesneg' - yn traddodi prif anerchiadDiwrnod y Llyfr yng Nghymru a hynny yn Llyfrgell yr Wyddgrug ar 4 Mawrth, mewn sgwrs â'i gyfaill a'i gydweithiwr yr Athro M. Wynn Thomas.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy