
 |  | Un dau tri . . . a channoedd efo'i gilydd
Parti cydadrodd mwyaf Cymru
Mawrth 2003
| Bu parti cydadrodd sy'n bygwth bod yr un mwyaf erioed yn - wel, cydadrodd - ar y radio Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth 6.
Ar Raglen Hywel a Nia ymunodd wyth o ysgolion ledled Cymru i gydadroddGalw Enwau cerdd gomisiwn newydd gan Fardd Plant Cymru - Menna Elfyn.
Gwrandewch
Yr ysgolion oedd Gartholwg a Heol y Celyn ym Mhontypridd; Tregaron ac ysgol Myfennydd, Llanrhystud yn y gorllewin, Tudweiliog, Pentrefoelas, Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno ac Ysgol Rhydypennau, Bow Street, Ceredigion.
Golyga hyn i dros 700 o ddisgyblion gydadrodd yn fyw ar yr awyr ar y bore o wyth lle gwahanol.
Hwn oedd y parti llefaru plant mwya erioed!
Nia oedd yn llywio'r gweithgareddau o'r stiwdio yng Nghaerdydd.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|