BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Euog
Dilyniant i Casglwr a Lladdwr
  • Adolygiad Glyn Jones o Euog gan Llion Iwan. Gomer. £6.99

    Byddai'r stori hon yn gwneud gwell ffilm na nofel.
    Mae'n fwrlwm o ddigwyddiadau a'r penodau yn toddi i'w gilydd fel golygfeydd ar y teledu.

    Twyll, lladd, herwgipio, saethu a dianc, maent yma bob un a Dafydd Smith, y prif gymeriad, fel rhyw James Bond Cymraeg.

    Clawr y llyfr Er yn ddieuog, mae yn y carchar am lofruddio'i gariad ac yn benderfynol o ddianc a dal y llofrudd.

    Ond mae criw o eithafwyr yn ei ddilyn a'r heddlu cudd yn eu dilyn hwythau.

    Mae'r hyn sy'n dilyn yn gêm cath a llygoden beryglus gyda'r naill berson yn ceisio cael y llaw uchaf ar y llall.

    Nid nofel neis, neis, mo hon. I'r gwrthwyneb. Gwelwn yn glir sut mae pobl ddiniwed yn cael eu defnyddio fel pêl ar gae chwarae y pwerus.

    Yn fwy brawychus fyth, does ond rhaid troi'r teledu ymlaen i weld fod pethau fel hyn yn digwydd yn y byd go iawn!

    Terfysgaeth. Y BNP. Helyntion Gogledd Iwerddon.
    Does dim angen dweud mwy.

    Ein gwahodd i ddyfalu
    Twyllwr o awdur sydd yma, yn chwerthin yn braf am ben ei gynulleidfa mewn nofel sydd fel stori ditectif yn ein gwahodd i geisio darganfod pwy sy'n gwneud beth a beth fydd y canlyniad.

    Dro ar ôl tro, cawn ein twyllo.

    Mae gan yr awdur ddychymyg byw a dawn arbennig i greu stori gyffrous - rhywbeth prin yn ein nofelau diweddar sy'n tueddu i ganolbwyntio ar gymeriadau a'u perthynas a'i gilydd yn hytrach na phlot.

    Yn gymhleth
    Fodd bynnag, gyda hyn daw cymhlethdod ac mae'r nofel yn ddyrys - yn rhy gymhleth yn fy marn i.

    Cymeriadau ffilm yw'r cymeriadau ac yn siŵr o fod yn well o'u gweld yn hytrach nag i uniaethu a nhw mewn print.

    Nid yw'r math yma o feddylfryd yn gweithio mewn nofel. Mae angen datblygu stori o amgylch y cymeriadau yn hytrach na thaflu cymeriadau i'r stori i wneud i bethau ddigwydd.

    A thybed a fu'r awdur yn rhy uchelgeisiol - problem yn ein nofelau cyfoes wrth i lenorion golli golwg ar y darllenydd cyffredin er mwyn plesio ceiliogod y colegau.

    O wlad i wlad
    Mae'n gwibio o Rwsia i'r America ac yna i gyfandir Ewrop cyn troi at Brydain a Chymru - rhyw fath o Zoom in os leiciwch.

    Dangosir twf mudiadau eithafol a'u hawch i ffeindio un gŵr i'w huno tan un faner; ŵyr Adolf Hitler, sy'n byw, coeliwch neu beidio, yn Nyffryn Conwy.

    Gwreiddiol iawn, ond dros ben llestri braidd, does bosib.

    Wrth geisio efelychu genre y nofelau What If? mae Llion Iwan mewn peryg o ddrysu ei gynulleidfa gyda'r stori gyfochrog hon a mynd ar goll rywsut yn hytrach na'i bod yn plethu'n dwt â'r stori arall.

    Mae'n amharu ar lif y naratif - testun nofel arall yw'r stori hon mewn gwirionedd.

    Wedi'r holl gynnwrf
    Ac yn y diwedd, wedi'r holl gynnwrf, mae'r cyfan yn rhy syml.

    Wedi dianc o'r carchar, trechu llofrudd, criw o derfysgwyr, yr heddlu cudd ac achub ei hen gariad, mae Dafydd Smith yn dianc i Iwerddon ar gefn beic!

    Credaf hefyd y gallasai'r nofel fod wedi elwa ar olygydd llymach efo'r bensil gan fod disgrifio lliw llyfr nodiadau a manylion tebyg yn wastraffus ac anniddorol.

    Dweud llawer mewn ychydig yw'r gamp.

    Dilyniant
    Er mai dilyniant yw'r nofel hon i Casglwr a Lladdwr gellir ei darllen fel nofel ar ei phen ei hun - a'i mwynhau, fel y gwnes i.

    Yn wir, ni chredaf imi droi tudalennau llyfr erioed mor gyflym.

    Trueni na fyddai meddwl pob llenor mor fywiog ag un Llion Iwan!

  • Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro, ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Lion Iwan

  • Adolygiad Carys Mair Davies

  • Adolygiad Linda Edwards


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy