BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Euog
Trosi'n ffilm yn hwylus
  • Adolygiad Linda Edwards o Euog gan Llion Iwan. Gwasg Gomer. £6.99.

  • Dyma'r drydedd a'r olaf o nofelau Llion Iwan am Dafydd Smith, gydag Euog yn ddilyniant i Casglwr a Lladdwr.

    Yn hon mae Dafydd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes, er ei fod yn ddieuog o lofruddio'i gariad, Anna Bennett.

    Gwŷr mai'r Casglwr oedd y llofrudd ac mae'n benderfynol o ddod o hyd iddo a chael cyfiawnder.

    Clawr y llyfr Yn ddiarwybod i Dafydd, fodd bynnag, mae dau fudiad pwysig â diddordeb mawr yn y Casglwr; Plaid Genedlaethol Lloegr yn Gyntaf ac MI6.

    Mae Plaid Genedlaethol Lloegr yn Gyntaf wedi darganfod fod gan y Casglwr, Louis Cypher, gyfrinach a allai helpu'r blaid i uno Ffasgwyr ledled Ewrop.

    Mae MI6 hefyd yn gwybod am gyfrinach Louis Cypher ac am ddod o hyd iddo er mwyn rhwystro hyn.

    Defnyddio Dafydd
    Mae'r ddau fudiad yn fodlon defnyddio Dafydd yn abwyd i ddenu'r Casglwr allan o'i guddfan ac yn mynd i eithafion i gyrraedd at Dafydd gyntaf.

    Mae'r nofel yn gafael yn syth a gwyddwn o'r frawddeg gyntaf fod yr hyn a ddigwyddodd yn Awstria yn 1902 yn mynd i gael dylanwad ar y stori, sydd yn rhoi dimensiwn arall, dyfnach i'r nofel.

    Mae'r ffordd y mae Abel Morgan - y Lladdwr - cyn aelod o'r gwasanaeth cudd sydd yn cael ei dynnu allan o'i ymddeoliad i ddod o hyd i Dafydd, yn gweithredu, yn arbennig yn ei sgiliau combat, yn taro deuddeg.

    Yn yr un modd, mae'r disgrifiad o Dafydd yn dianc o'r carchar hefyd yn arbennig o afaelgar.

    Crëir tensiwn o'r funud gyntaf, a chaiff ei gynnal yn ardderchog ym mhob pennod.

    Adnabod y cymeriadau
    Teimlaf fy mod yn adnabod y cymeriadau er nad oes gor ddisgrifio.

    Mae arddull y nofel yn fy atgoffa ar un wedd o steil Anthony Horowitz yn Stormbreaker - yr un cynildeb yn yr ysgrifennu sy'n rhan hanfodol o greu scenarios.

    Fel Stormbreaker hefyd, mae'r gyfrol hon yn ddelfrydol i'w haddasu ar gyfer teledu neu'r sgrîn fawr, a synnwn i ddim gweld hynny'n cael ei wireddu o fewn y flwyddyn nesaf.

    Ond tra bo nofel Horowitz yn apelio'n bennaf at blant yn eu harddegau, gyda chynnwys sy'n fwy nodweddiadol o straeon James Bond, bydd Euog yn apelio at gynulleidfa ehangach - o bobl ifanc yn eu harddegau i oedolion, yn ddynion ac yn ferched, gan fod y cynnwys yn iasol real yn y byd cyfoes sydd ohoni.

    Ar ei phen ei hun
    Un pryder oedd gen i wrth fynd ati i ddarllen y gyfrol - na fyddai cystal blas arni heb ddarllen ei dwy ragflaenydd.

    Siom ar yr ochr orau felly, oedd canfod fod hon yn nofel sy'n sefyll ar ei phen ei hun yn ogystal â bod yn rhan o drioleg, ac nad oedd rhaid bod wedi darllen yr un o'r ddwy flaenorol i'w mwynhau.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Dau adolygiad arall


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy