BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Euog
Byd dieithr i ymgolli ynddo
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Euog gan Llion Iwan. Gomer.


  • "Ydi'r pris yn rhy ddrud bellach? . . ."

    Mae Dafydd Smith mewn cell, wedi ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio'i gariad.
    Aeth ei fywyd i gyd ar chwâl ond, gyda chyn lleied i'w golli, nid yw Dafydd yn fodlon derbyn y bai am drosedd rhywun arall - yn enwedig gan fod y llofrudd go iawn yn dal â'i draed yn rhydd.

    Ond am ba hyd?
    Wrth i'r rhwyd ddechrau cau am Louis Cypher, sef y Casglwr dieflig, o'r diwedd, pwy fydd yn llwyddo i'w ddal e gyntaf?

    Ai'r eithafwyr ffasgaidd sydd eisiau defnyddio'r Casglwr a'i gyfrinach iasol i'w dibenion eu hunain?
    Ai MI5, o dan arweiniad y Cyrnol a hen 'ffrind' Dafydd, y Lladdwr?
    Ynteu Dafydd ei hun, sy'n fodlon aberthu popeth dros y gwir?

    Beth yw gwir werth rhyddid, a phwy sy'n fodlon talu'r pris?

    Trydedd nofel
    Euog yw trydedd nofel Llion Iwan am Dafydd Smith - a'r olaf yn anffodus - ac yn ddilyniant i Lladdwr a Casglwr.

    Mae'n meddu ar yr un hud iasoer â'r ddwy arall.

    Clawr y llyfr Credaf ei bod hi'n hanfodol darllen y ddwy arall cyn darllen hon gan y byddai'n gwbwl amhosibl gwneud pen rheswm o'r plot gan fod cymaint o gyfeiriadau at gymeriadau a chefndir y ddwy nofel gyntaf.

    Gyda'r Casglwr wedi gorffen yn benagored yr oeddwn ar bigau'r drain i ddarganfod beth ddigwyddodd nesaf i Dafydd Smith, yr arwr.

    Disgwyliwn nofel yn llawn tensiynau, drama, peryglon, casineb a dianc er mwyn achub bywydau - ac ni chefais fy siomi!!

    Cyllyll a gynnau
    Fel yr wyf yn siŵr eich bod wedi sylweddoli mae Euog a'r llyfrau eraill yn mynd a ni i fyd dieithr a dyrys gyda'u sôn am MI5 a llofruddion lluosog ac er bod yn well gen i yn gyffredinol nofelau am fyd cyfarwydd y gallaf uniaethu ag ef yr oedd yn braf cael fy mwrw i fyd dychmygol o gyllyll a gynnau am unwaith!!!

    Yn enwedig byd o gyllyll a gynnau a grëwyd mor gelfydd.

    Dyma nofel sy'n haeddu sylw pawb!!
    Mae'n rhaid bod crefft hynod ac ymdrech annisgrifiadwy yn mynd i mewn i gampwaith o'r fath - fel naddu darn o bren yn gain - ac mae Llion Iwan yn rhagori ar ein disgwyliadau.

    Gorfod ailddarllen
    Buaswn yn cymeradwyo Casglwr i unrhyw un o unrhyw oedran ond mae'n rhaid eich rhybuddio bod y stori yn symud yn gyflym iawn! Anodd iawn dal i fyny â'r digwyddiadau.

    Bu'n rhaid i mi ail ddarllen rhannau o'r nofel sawl gwaith er mwyn deall yn iawn beth oedd yn digwydd.

    Ond cefais fodd i fyw wrth ddarllen Euog ac ni allwn roi'r llyfr i lawr o gwbwl. Bu'n rhaid ei orffen mewn noswaith!!

    Yn fy marn i, mae Euog yn well na Lladdwr - ond rwy'n dal i roi Casglwr ar y brig!

    Er yn siomedig fod straeon Dafydd Smith wedi dirwyn i ben rhaid imi ganmol Llion Iwan am y modd y daeth â'r cyfan i ben gyda chlec fythgofiadwy.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales Cliciwch

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiadau eraill Cynllun Papurau Bro

  • Adolygiad Glyn Jones o Euog


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy