I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:
Neu darllenwch am gofiant Meredydd Evans i Cuto Roberts, Rhoslan:
Y Fo Guto gan Meredydd Evans. Gwasg Carreg Gwalch. £7
gan Ioan Mai
Yr oedd Guto Roberts yn eilun cenedlaethol - y Fo yn Fo a Fe. Roedd hefyd yn gawr yn ei fro ac ymhlith gwerin y fro honno. Cofnodwr prysur oes sy’n prysur ddiflannu.
Dywed golygydd y gyfrol Y Fo Guto, dywed y Dr Meredydd Evans, mai gwr y gair llafar oedd Guto. Gwr goslef y llais a’r trawiadau unigryw a erys yn fyw er iddo ef dewi.
Egyr y gyfrol gyda pheth o gefndir Guto yn Isallt Fawr a’r Muriau Mawr. Ei addysg gynnar yn Ysgol yr Eglwys, Llanystumdwy ac, wedi hynny, yn Ysgol Sir Porthmadog. Yno bu’n ymlafnio gyda’r Algebra a’r Saesneg - heb glywed gair am un a ddaeth yn eilun oes iddo, T. H. Parry Williams, a fu’n ddisgybl yn yr un ysgol.
Ond yng nghyfarfod dathlu canmlwyddiant Ysgol Eifionydd, Guto oedd yn annerch, ac y mae hon - fel yr holl anerchiadau eraill sydd yn y gyfrol - yn drysor.
O gyfoeth geiriol ei gyfraniadau i Rhwng Gwyl a Gwaith i ddyfyniadau ei ddyddiadur mae yma doreth o ddeunydd. A chnwd englynion o’r pumdegau fel hwn i’r Deigryn -
Wylwn hwn wrth lawenhau, - dro arall
Drwy erwin ofidiau,
Ar arwydd prinder geiriau,
A rydd ef, boed un neu ddau.
Ar ddyddiau heulog braf, anaml y gwelid Guto heb ei gamera a’i sbieinddrych. Ar nosweithiau hirion gaeaf bddai mewn rhyw gornel yn dawel wrtho’i hun a’i gamera fideo yn diogelu ar ffilm ddarlithoedd o bwys, neu sgwrs, ddathliad, campau cwn defaid, agor Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ac ugeiniau o gyfraniadau sy’n aros yn drysorau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
O niferus luniau’r gyfrol hoffaf hwnnw lle gwelir Guto mewn afiaith gyda’r llawfeddyg Owen E. Owen y cofnododd Guto ei hanes yn Doctor Penybryn - llyfr a aeth i bedwar argraffiad.
Mawrygwn ninnau, y darllenwyr, waith clodwiw y Doctor Meredydd Evans am ei gymwynas anfesuradwy.
Cliciwch yma am stori flaenorol am yr un llyfr
Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:
Cymraeg a dwyieithog
BLAGURYN O GYFF JESSE - RHAGLEN ADFENT I BLANT: Marion Richards, Enid Morgan, Kay Warrington Addas. Delyth Wyn 1859942407 Gwasg yr Eglwys yng Nghymru £5.99 Gweithgareddau i blant, ar gyfer y cartref neu’r Ysgol Sul.
BYD PLENTYN: E. Olwen Jones 0862435242 Y Lolfa £4.95 Casgliad o ganeuon a charolau i blant bach.
CÂN Y DDRAIG: Robat Arwyn 1897664192 Curiad £5.99 11 o ganeuon newydd gan gyfansoddwr poblogaidd.
CLYCHAU BETHLEHEM: Gwennant Pyrs 189766429X Curiad £5.99 Cyfrol o garolau newydd.
COFIO DEWI EIRUG: Huw Ethall 1871799414 Ty John Penri £4.95 Portread o'r diweddar Dewi Eirug Davies a'i gyfraniad i fywyd crefyddol Cymru.
CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: OWAIN GLYNDWR: Aeres Twigg 1859029043 Gwasg Gomer £1.95 Llyfryn dwyieithog yn adrodd hanes Owain Glyndwr.
CYFRES LLYFRAU LLAWEN:9. I WLAD YR HWLI DWLIS: Joan Ferrero Darl. Lyn Hughes-Evans 0862435609 Y Lolfa £4.95 Stori ddifyr gyda lluniau lliw-llawn.
Y CYNTEFIG CYFOES: Donald Evans 1900437422 Cyhoeddiadau Barddas £6.95 Detholiad o gerddi'r bardd, gydag ambell un newydd.
DIGON I'R DIWRNOD - CYFROL O FYFYRDODAU DYDDIOL: Robin Williams 1902416392 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £9.95 Casgliad o fyfyrdodau crefyddol, un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn.
FFARWELIO Â CHANRIF: Alan Llwyd 1900437392 Cyhoeddiadau Barddas £7.95 Cyfrol o farddoniaeth newydd yn edrych yn ôl ar yr ugeinfed ganrif.
FFERM 123: Benedict Blathwayt 1855964155 Dref Wen £4.99 Adargraffiad o lyfr gair-a-llun dwyieithog i blant bach.
GAFAEL MEWN GRAMADEG: David A. Thorne 1859028888 Gwasg Gomer £14.95 Holl elfennau gramadegol y Gymraeg.
LLANGYNOG GYNT: J.D. Lloyd 0860741710 Gwasg Gwynedd £4.50 Atgofion yr awdur a hanes ardal Llangynog.
LLWYFANNAU LLEOL: Gol. Hazel Walford Davies 1859029027 Gwasg Gomer £9.95 Cyfrol ar hanes theatrau lleol yng Nghymru.
TAFF PAC: Joanna Davies 0862435323 Y Lolfa £4.95 Cyfweliadau gyda deg o Gymry ifanc sy'n gwneud eu marc ym myd drama a ffilm.
TAI BACH A THAI MAS - Y CARDI AR EI WAETHAF: Lisa Pennant 190241621X Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £6.99 Atgofion am fywyd yng Ngheredigion ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
TOMI'N CEISIO CYSGU: Sally Chambers Addas. Hedd ap Emlyn, Non ap Emlyn 1855964546 Dref Wen £3.99 Llyfr lliwgar i blant bach, yn yr un gyfres â Tomi Mewn Trwbwl.
Y TUDURIAID YNG NGHYMRU / THE TUDORS IN WALES: Walter Jones, Nigel Williams 1902724240 Cyhoeddiadau Relay £30.00 Pecyn dwyieithog yn cynnwys llawlyfr athrawon, cardiau ffynhonnell a CD-ROM.
UN DRWG DRWG YW EDWYN: Alan Durant Addas. Dylan Williams Darl. Guy Parker-Rees 1902416406 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £5.75 Stori mewn odl am gwningen gas, gas.
UN NOSON DYWYLL: T. Llew Jones 0850882249 Gwasg Gomer £5.95 Un noson dywyll, cafodd ceidwad y tollborth ymwelydd annisgwyl...
Llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru
ALIVE AND KICKING: Clare Woodward 0953868818 Tregolwyn Publishing £12.95 Nofel am iselder ysbryd mam sydd wedi colli ei phlentyn.
THE CELTS: John Davies 0304355909 Cassell £18.99 Llyfr i gyd-fynd â chyfres ar S4C.
KEEP THE FEAST: 1859942423 Gwasg yr Eglwys yng Nghymru £14.99 Pecyn yn cynnwys cryno ddisg o 18 carol, llawlyfr Plygain a thestun y carolau.
NEWSPAPER RUSSIAN - A VOCABULARY OF ADMINISTRATIVE AND COMMERCIAL IDIOM: John Slatter 0708316344 Gwasg Prifysgol Cymru £10.99 Llawlyfr o'r iaith a'r eirfa sydd i'w gweld ym mhapurau newydd Rwsia heddiw.
POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: MICHAEL WALZER ON WAR AND JUSTICE: Brian Orend 0708316484 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Golwg ar rai o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol ein cyfnod.
POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: WILLIAM MORRIS - THE ART OF SOCIALISM: Ruth Kinna 0708315828 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Astudiaeth sy'n edrych ar agweddau o waith William Morris.
TEACHING A CHICKEN TO SWIM: Gol. Rob Middlehurst 1854112910 Seren £6.95 Straeon byrion gan gyn-fyfyrwyr cwrs Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Morgannwg.
THE WALES YEARBOOK 2000: Gol. Denis Balsom 0953128733 Cyhoeddiadau F.B.A. £35.00 Y cyfeirlyfr hanfodol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
WRITING RELIGIOUS WOMEN - FEMALE SPIRITUAL AND TEXTUAL PRACTICES IN LATE MEDIEVAL ENGLAND: Goln. Denis Renevey, Christiania Whitehead 0708316417 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol sy'n edrych ar destunau lle mae menywod yn chwarae rhan amlwg.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales
