I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:
Ffrind yn cofio ffrind.
Llyfr y bydd derbyniad gwresog iddo ymhlith mwy nag un genhedlaeth yw cofiant Guto Roberts, Rhoslan, gan ei gyfaill, Meredydd Evans.
Cyhoeddir Y Fo - Guto gan Wasg Carreg Gwalch ac y mae'n cynnwys nifer o luniau o'r actor llengar a diwylliedig hwn.
Dywedodd Meredydd Evans mai ei fwriad wrth lunio'r gyfrol oedd "creu darlun dyfnach na'r Fo y mae'r rhan fwyaf yn gwybod amdano."
Guto Roberts, oedd y Fo yn Fo a Fe efo Ryan Davies ond fel Ryan ei hun yr oedd ystod ei ddawn yn llawer ehangach na hynny.
"Fe fuon ni'n gyfeillion ymhell dros 50 mlynedd. Roedd o'n un o fy nghyfeillion pennaf a dw i'n teimlo fy mod i eisio i bobol ei weld o mewn ffordd ychwanegol at be oeddan nhw'n ei nabod," meddai Merêd.
"Dw i'n teimlo ei bod hi wedi bod yn ddyletswydd ar sail ein cyfeillgarwch ni i mi dalu teyrnged iddo nid trwy siarad amdano ond trwy adael iddo fynegi ei hun, achos mae'r pethau mae o wedi eu gadael ar ôl gyda'r gorau," ychwanegodd.
Mae'n disgrifio Guto fel dyn gyda dawn arbennig i drin geiriau.
"Roedd geiriau a iaith yn rhyfeddod iddo. Roedd ganddo ddiddordeb dwfn yn y ffaith ein bod ni'n gallu siarad ac, yn fwy na hynny, ein bod ni'n medru sgwennu. Roedd o'n mynd i drafferth mawr i feistroli'r ffordd roedd yn mynegi ei hun ar lafar, neu mewn ysgrifen," meddai.
"I mi, roedd Guto yn llenor, yn werinwr diwylliedig oedd wedi diwyllio ei hun," meddai.
Er iddo adael yr ysgol yn 16 yr oedd yn arian byw o ddiwylliant ac y mae Meredydd Evans yn cyfeirio at ei ddoniau fel arlunydd, ysgrifenwr a deudwr straeon yn ogystal ag actio.
"Roedd yna sawl Guto," meddai a'i fwriad yn y llyfr hwn yw rhoi llwyfan i bob un ohonyn nhw.
Yn ystod ei flynyddoedd olaf daeth llawer iawn ohonom yn gyfarwydd a gweld Guto Roberts mewn pob math o ddigwyddiadau yn eu cofnodi gyda chamera fideo. Ychwanegiad buddiol sydd yn dangos amrediad y gwaitrh rhyfeddol hwnnw yw'r rhestr o ffilmiau a wnaeth fel pennod i gloi y deyrnged.
Bydd hon yn gyfrol y bydd mwynhau a gwerthfawrogi arni.
Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau newydd:
Cymraeg a dwyieithog
CLWB CYSGU CWL, Y: NOS WENER 13: Louis Catt Addas. Siân Lewis 1859029108 Gwasg Gomer £3.50 Antur arall gyda'r Clwb Cysgu Cwl.
PAM FI, DUW, PAM FI?: John Owen 0862433371 Y Lolfa £5.95 Darlun lliwgar o fywyd yn un o ysgolion uwchradd y de-ddwyrain. Adargraffiad.
Y FO - GUTO: GUTO ROBERTS - UN O GEWRI GWERIN GWLAD: Gol. Meredydd Evans 0863816525 Gwasg Carreg Gwalch £7.00 Cyfrol goffa i Guto Roberts, yn cynnwys rhai o'i ysgrifau ef ei hun.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
ARRIVEDERCI SWANSEA: THE GIORGIO CHINAGLIA STORY: Mario Risoli 1840182830 Mainstream Publishing £9.99 Hanes gyrfa'r pêl-droediwr yng nghlwb Abertawe.
THE CELTIC BOOK OF LIVING AND DYING: Juliette Wood 1900131641 Duncan Baird Publishers Ltd. £14.99 Llyfr yn astudio agwedd y Celtiaid tuag at holl agweddau bywyd a marwolaeth.
DAFYDD AND GOLIATH: Dafydd Gittins 0953894509 Columbia Publishing Wales Ltd. £16.99 Atgofion yr awdur o ddioddef anghyfiawnder yn ei erbyn.
FOUR SEASONS WITH ENA: Ena Thomas 085284302X Hughes £8.99 Mwy o ryseitiau a bwydlenni gan Ena.
JACK THE STATION CAT GOES TO SCHOOL: Alan Cliff Darl. Helen Maffin 1903264200 Wendy Webb Books £2.95 Stori ddifyr i blant wedi ei darlunio â lluniau du-a-gwyn.
MEMORIES OF OLD COLWYN: Dilys Thomas 1872424791 Bridge Books £12.95 Atgofion yr awdures o bron i 80 mlynedd o fywyd yn Hen Golwyn.
THE POCKET GUIDE SERIES, A: CUSTOMS AND TRADITIONS OF WALES: Trefor M. Owen 0708311180 Gwasg Prifysgol Cymru £5.99 Llawlyfr yn rhoi hanes cryno traddodiadau’r Cymry. Adargraffiad.
THE POCKET GUIDE SERIES, A: PLACE-NAMES OF WALES: Hywel Wyn Owen 0708314589 Gwasg Prifysgol Cymru £4.99 Arweinlyfr hylaw i'r sawl sydd am ddysgu am enwau lleoedd Cymru. Adargraffiad.
ROMAN & EARLY MEDIEVAL WALES: Jeffrey L. Davies, Christopher J. Arnold 0750921749 Sutton Publishing £25.00 Cyfrol yn crynhoi tystiolaeth ynglyn â hanes Cymru yn y cyfnod Rhufeinig a chanoloesol.
TWO CATS WALKING: Bettina Selby Darl. Marieanne Griffiths 0953800709 Mountain House Publications £12.95 Stori i ddarllenwyr o bob oed am ddwy gath yn mynd ar grwydr i Loegr.
THE WELSH KINGS - THE MEDIEVAL RULERS OF WALES: Kari Maund 0752417886 Tempus Publishing Limited £19.99 Astudiaeth o gyfraniad brenhinoedd a thywysogion Cymru i'w hanes.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales
