I fynd yn syth i'r rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma
Mae llyfr newydd am Owain Glyndwr sydd ar fin cyrraedd y siopau wedi ei noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cyhoeddir Owain Glyndwr: Tywysog Cymru - ac Owain Glyndwr: Prince of Wales - gan y Lolfa ac y mae wedi ei anelu at blant hynaf yr ysgol gynradd.
"Mae'n cyfleu hanes cyffrous y gwrthryfel mewn straeon sy’n lliwgar ac yn llawn gwybodaeth am y digwyddiadau gwleidyddol arwyddocaol ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, gyda darluniau llawn-lliw gan Margaret Jones sy’n rhoi bywyd i’r brwydrau dramatig y mae’n eu disgrifio," meddai llefarydd Cyngor y Celfyddydau.
Mae’r llyfr ei hun yn gynhwysfawr, ac mae ynddo gyfanswm o 12 o benodau – yn cynnwys straeon am ddigwyddiadau arwyddocaol ym mywyd Owain Glyndwr, megis Brad yn y Castell, Brwydr Bryn Glas, Cyfraith a threfn, Y dewin ac Anrhegion o Ffrainc.
I nodi chwe chan mlwyddiant coroni Owain Glyndwr yn Dywysog Cymreig diwethaf Cymru, mae Cyngor Sir Gwynedd wedi archebu copïau o’r llyfr ar gyfer disgyblion ym mhob un o ysgolion cynradd Gwynedd.
Meddai Dafydd Whittall, Cyfarwyddwr Addysg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir Gwynedd: "Mae gallu darllen hanes Owain Glyndwr a’i uchelgais dros Gymru yn newydd da ynddo’i hun,ond pan fo wedi’i fwriadu ar gyfer plant, mae’i werth yn fwy fyth.
"Fe fydd y plant yma’n dod i oed gyda gwybodaeth am ein Tywysog olaf a’r gwrthryfel ac fe fyddan nhw’n gallu’i throsglwyddo i’w plant nhw mewn blynyddoedd i ddod. Da o beth fyddai cadw’r bennod bwysig yma yn hanes Cymru’n ‘fyw’ ar gof pawb, ac mae cyhoeddi’r llyfr yma heb os yn garreg sarn i wneud hynny."
Meddai Golygydd Cyffredinol Y Lolfa, Lefi Gruffydd:
" Dwi’n siwr y bydd y gyfrol hon ar Owain Glyndwr, sydd ar yr un ffurf â Chwedlau o’r Gwleydd Celtaidd a gan yr un awdur, yr un mor llwyddiannus ac yn dod â hanes Owain Glyndwr yn fyw i blant Cymru. Rydym yn falch iawn fod CCC wedi gallu ariannu’r llyfrau pwysig yma, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg."
Meddai Gwennan Ruddock, Gweinyddwr Cynlluniau Llenyddiaeth CCC:
"Dyma enghraifft dda o sut mae’r celfyddydau’n gallu bod o fantais i hyd yn oed yr unigolion ieuengaf yng Nghymru. Dichon y bydd y llyfr yma’n ysbrydoli plant i chwilio ymhellach i hanes Owain Glyndwr, i ddarllen mwy o lyfrau naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu hyd yn oed roi cychwyn ar arbrofi gydag ysgrifennu creadigol eu hunain."
Cyhoeddir y llyfrau ar Owain Glyndwr yn swyddogol ar Fedi 16, mewn pryd ar gyfer ‘diwrnod Owain Glyndwr‘, pan fydd dathliadau o bob math yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Owain Glyndwr: Tywysog Cymru : Owain Glyndwr: Prince of Wales gan Rhiannon Ifans. Darluniau gan Margaret Jones. Dylunio gan Olwen Fowler.
Ac yn awr dyma restr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau diweddaraf i gyrraedd y siopau.
ADRE CYN NOS: Ian Beck Addas. Helen Emanuel Davies 1859028756 Gwasg Gomer £3.95 Ni all Lili fynd i'r gwely heb Tedi, felly rhaid iddo gyrraedd adre cyn nos.
AR GOLL YN YR EIRA: Ian Beck Addas. Helen Emanuel Davies 1859028608 Gwasg Gomer £3.95 Ni all Lili fynd i'r gwely heb Tedi, ond mae Tedi ar goll yn yr eira.
CYFRES CEFN Y RHWYD: AR DDIWEDD Y DYDD: Elgan Philip Davies Darl. John Shackell 1902416287 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £3.95 Nofel fer i blant CA2 am dîm pêl-droed o fechgyn a merched.
DYDDIADUR DESG Y LOLFA 2001: 0862435382 Y Lolfa £5.95 Dyddiadur at ddefnydd sefydliadau Cymreig yn bennaf.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU
BARRY JOHN: THE KING: Barry John, Paul Abbandonato 1840183411 Mainstream Publishing £14.99 Golwg ar hanes bywyd Barry John ynghyd â rhagair gan George Best.
BOOK OF WELSH SAINTS, THE: Terry Breverton 1903529018 Glyndðr Publishing £24.99 Hanes saint Celtaidd Cristnogol y bumed a'r chweched ganrif.
BURNING POISON - THE MURDER THAT ROCKED GEORGIAN LIVERPOOL: Glenn Chandler 0953833801 Lea Valley Press £11.99 Dirgelwch hanesyddol, gan awdur y gyfres Taggart.
CAMBRIAN COUNTRY: David Greenslade 0863816134 Gwasg Carreg Gwalch £5.75 Rhyddiaith farddonol am eiconau Cymreig, megis y ddraig goch.
CARDIFF DEAD: John Williams 0747549974 Bloomsbury Publishing Ltd £9.99 Nofel am wr yn ceisio dygymod â'r newidiadau yng Nghaerdydd ar ddiwedd y 1990au.
CELTS, THE - LIFE, MYTH AND ART: Juliette Wood 1900131862 Duncan Baird Publishers Ltd. £17.95 Hanes y Celtiaid, gyda thros 100 o ffotograffau lliw-llawn.
CERYS, CATATONIA AND THE RISE OF WELSH POP: David Owens 0091874122 Ebury Press £9.99 Hanes Catatonia, o ddechrau'r band yn 1992 hyd ddiwedd yr 1990au.
EDUCATION AND SOCIAL JUSTICE: THE CHANGING COMPOSITION OF SCHOOLS AND ITS IMPLICATIONS: Stephen Gorard 0708316190 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Llyfr sy'n herio'r darlun cyffredinol o addysg Brydain mewn argyfwng.
NARROW GAUGE RAILWAY IN SOUTH CAERNARVONSHIRE (VOL 1 THE WEST): J.I.C. Boyd 0853613656 Oakwood Press £22.95 Llyfr ar reilffyrdd, gan awdur cydnabyddedig yn y maes.
TALIESIN TRADITION, THE: Emyr Humphreys 1854112465 Seren £8.95 Astudiaeth o'r modd y newidiwyd hunaniaeth Gymreig gan lenyddiaeth.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales

Er mwyn medru mynd yn syth i'n rhestr fanwl o ddigwyddiadau Dydd Owain Glyndwr cliciwch yma