
 |  | Cyfoeth o Benfro
Adolygiad o Estyn yr Haul
Hefyd: Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau Dydd Iau, Medi 7, 2000
|
I fynd yn syth i'r rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma
Adolygiad o Estyn yr Haul Golygydd: Eirwyn George
Y mae Sir Benfro yn sir gyfoethog ei llên.
Magodd nifer dda o feirdd sy’n enwau cyfarwydd. O gofio mai mewn llai na hanner y sir y siaredir Cymraeg mae ei chyfraniad i farddoniaeth Gymraeg yn sylweddol. Er hynny nid bob amser y cofir am gyfraniad sgrifenwyr rhyddiaith y sir hardd ac amrywiol hon.
Casgliad o ryddiaith gan blant y sir - a rhai fu yno’n byw yno am gyfnodau - yw’r gyfrol Estyn yr Haul a olygwyd gan y prifardd Eirwyn George.
Cyfraniad gwybodus a gwerthfawr Mae ei ragymadrodd ef yn gyfraniad gwybodus sy’n bwrw golwg gwerthfawr dros draddodiad llenyddol y sir - y cysylltiadau â’r Mabinogi, Bucheddau’r Saint, Gerallt Gymro - sy’n codi awydd am wybod a darllen mwy.
Mae’n sir gyfoethog ym maes llên gwerin, hefyd.
Syndod canfod i Edgar Phillips (Trefîn) ddarlledu, o bryd i’w gilydd, 50 o sgyrsiau radio am gannwyll corff. Trueni na fu modd cynnwys cyfraniad gan Trefîn yn y gyfrol.
Tafodiaith swynol Mae hefyd yn sir ag iddi dafodiaith swynol ac eithafol, er i Eirwyn George yn osgoi unrhyw demtasiwn i gynnwys yr un stori na’r un ysgrif dafodieithol yn y gyfrol.
Dyma sir fawr y straeon celwydd golau ac y mae enwau fel Shemi Wâd a Daniel y Pant yn dal yn fyw ar gof yr hen a’r ifanc - er na cheir yr un enghraifft o’r math yna o stori yn y gyfrol ’chwaith.
Daw teitl y gyfrol o un o gerddi nodedig Waldo Williams, "Preseli" lle mae’n sôn am dyddynwyr bro ei febyd yn "estyn yr haul i’r plant" ym mhob tywydd.
Ie, y Preseli - "darn o wlad iawn at dyfu gwerinwr" fel y dywed T. E. Nicholas yn y darn o’i atgofion am Pentregalar.
Niclas (1878 - 1971) yw’r "hynaf" o’r cyfranwyr. Ceir ganddo atgofion am oes pan anfonid Saeson i "addysgu" yn ysgolion cynradd gwlad oedd yn uniaith Gymraeg.
Ddysgodd Niclas ddim yn yr ysgol nes ei fod yn 12 oed, meddai - ond cafodd addysg a diwylliant ar aelwyd Y Llety.
Yno y cafodd y pleser o glywed ei dad yn darllen pregethau, barddoniaeth Mynyddog a Baner ac Amserau Cymru i deulu astud.
Dau Ddyn Dwad Dyn dwad oedd Dewi Emrys - fe’i ganed yng Nghei Newydd - ond â Sir Benfro a Phencaer y cysylltir ei enw. Yno, uwchben Pwllderi, y saif ei gofeb.
Mewn cyfrol ddarllenadwy o Ysgrifau a gyhoeddwyd yn 1937 yr ymddangosodd cyfraniad Dewi i Estyn yr Haul. Ysgrif, sydd hefyd yn dipyn o stori, yw "Jac".
Doniol, annwyl am y ci aeth i bob math o drafferthion i fynd i oedfa fore Sul.
Dyn dwad oedd D. J. Williams hefyd, ond D.J. Abergweun oedd e i bawb o’i gydnabod. Yr oedd yn feistr ar y stori fer a chynhwysir un o’i gampweithiau yn y gyfrol.
Mae i’r gyfrol sawl cyfraniad sy’n cysylltu â’i gilydd.
Mae atgofion Dillwyn Miles o D.J. fel athro Saesneg ysbrydoledig a charedig ond parod i estyn bonclust i ddisgybl anystywallt yn ddadlennol a diddorol.
Ceir portread o hen ffarier o Geredigion gan Emrys Rees, un arall a ymsefydlodd yn Abergwaun er yn enedigol o Sir Aberteifi.
Portread cyhyrog a hwyliog.
Mae yma stori gan Waldo Williams, er bydd sawl un yn cael ei arwain i gredu ei fod llawer gwell bardd nag o awdur storiau.
Ac yn awr dyma restr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau diweddaraf i gyrraedd y siopau.
LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG
BYWYDAU PRYSUR DYLAN A MEL: CAR: Pierre Pratt 1855964376 Dref Wen £2.99 Llyfr bordyn dwyieithog yn cyflwyno geirfa i blant ifanc.
BYWYDAU PRYSUR DYLAN A MEL: CARTREF: Pierre Pratt 1855964384 Dref Wen £2.99 Llyfr bordyn dwyieithog yn cyflwyno geirfa i blant ifanc.
BYWYDAU PRYSUR DYLAN A MEL: PARC: Pierre Pratt 1855964392 Dref Wen £2.99 Llyfr bordyn dwyieithog yn cyflwyno geirfa i blant ifanc.
BYWYDAU PRYSUR DYLAN A MEL: SIOPAU: Pierre Pratt 1855964406 Dref Wen £2.99 Llyfr bordyn dwyieithog yn cyflwyno geirfa i blant ifanc.
CANU CYNNAR: Tecwyn Ellis 1897664923 Curiad £5.99 Wyth o ddarnau, yn gerdd dant ac yn weithiau ar gyfer corau.
CANWN FAWL 2: Eric Jones 1897664036 Curiad £5.99 17 o emynau modern, yn unawdau a deuawdau.
CLIVE! CAWR CICIO CWMTWRCH: Clive Rowlands, John Evans 1859027547 Gwasg Gomer £9.95 Hunangofiant y chwaraewr rygbi Clive Rowlands. Adargraffiad.
CYFRES CELF 2000: ANEURIN: Gol. Emyr Llywelyn 086243534X Y Lolfa £19.95 Llyfr o waith Aneurin Jones.
GEIRIADUR PRIFYSGOL CYMRU 54: Goln. Gareth A. Bevan, M.A., Patrick J. Donovan, M.A. 0000870706 Gwasg Prifysgol Cymru £8.00 Cyfrol ddiweddaraf y Geiriadur, yn cynnwys y geiriau Streic i Tachmoniad.
LLYFR YMWELWYR: 0862435498 Y Lolfa £19.95 Llyfr â rhwymiad lledr mewn pedair iaith - Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg.
MI GANAF GÂN / I'LL SING A SONG: Hawys Glyn James 1897664974 Curiad £6.50 Deuddeg o ganeuon dwyieithog i blant ar themâu amrywiol megis Gwyl Ddewi a Diolchgarwch.
Y NADOLIG CYNTAF: Nicola Smee 1855964422 Dref Wen £3.99 Llyfr bordyn lliwgar yn adrodd Stori’r Nadolig i blant ifanc.
PEDWAR TYMOR ENA: Ena Thomas 0852843038 Hughes £8.99 Mwy o ryseitiau gan y gogyddes deledu boblogaidd, wedi eu rhannu yn bedair adran i gyd-fynd â’r tymhorau.
Y PREGETHWR: Angel S. Vlachos Addas. John FitzGerald Darl. Paul S. Vlachos 1898685177 Philomel Productions Limited £12.99 Pecyn o gardiau maint A4 yn cynnwys myfyrdodau yn seiliedig ar "Y mae tymor i bob peth...".
YN Y MWD: Bethan Bryn 1897664133 Curiad £5.99 Cyfrol o geinciau cerdd dant newydd ac arbrofol.
LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU ALL IN WALES: 1902946022 All In Communications Ltd. £3.95 Cyfeirlyfr o'r holl fusnesau yng Nghymru sydd yn gysylltiedig â thwristiaeth.
ANGLESEY REMEMBERS - SOME OF ITS EMINENT PEOPLE: Margaret Hughes 0863816142 Gwasg Carreg Gwalch £4.75 Cyfrol ar enwogion sydd yn hanu o Ynys Môn.
THE ART OF FREESTYLE: Eric Brymer, Tom Hughes, Loel Collins 0953195635 Pesda Press £18.00 Cyfarwyddiadau manwl ar sut i arfer y grefft 'freestyling' gyda chanw.
BLACK PEARLS: Tony Williams 0953520234 Genesis Publishing £6.95 Cofnod o daith yr awdur a’i deulu, yn dilyn ôl traed Madog.
FROM SHORE TO SHORE - A PERSONAL PILGRIMAGE THROUGH WALES: Mike Perrin 1850491666 Gwasg Bryntirion £6.95 Taith gerdded o Lanfairfechan i Benrhyn Gwyr, gyda hanes ysbrydol y mannau.
HEAVEN: Gwynn Williams Addas. Kitty Lloyd Jones 1850491690 Gwasg Bryntirion £2.95 Arweiniad ar sut y dylai Cristnogion fyw yn y byd hwn yng ngoleuni'r Nefoedd.
HOWELL HARRIS: FROM CONVERSION TO SEPARATION, 1735-1750: Geraint Tudur 0708316182 Gwasg Prifysgol Cymru £25.00 Cyfrol sydd yn cynyddu dealltwriaeth o Ddiwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif.
THE ISLAND OF APPLES: Glyn Jones 0708311768 Gwasg Prifysgol Cymru £7.95 Nofel wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ne Cymru ac yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
IT'S WALES: WELSH MOUNTAIN WALKS: Dafydd Andrews 0862435471 Y Lolfa £3.95 Teithiau cerdded gan awdur Cant Cymru a The Welsh One Hundred.
IT'S WALES: WELSH SONGS: Gol. Lefi Gruffudd 0862435250 Y Lolfa £3.95 Casgliad o ganeuon gwerin poblogaidd a thraddodiadol yn yr iaith Gymraeg.
LINKWORD WELSH: Dr Michael M. Gruneberg 1859022685 Gwasg Gomer £5.95 Cwrs i alluogi dysgwyr i feistroli cannoedd o eiriau a gramadeg sylfaenol.
A MINGLED YARN: Dillwyn Miles 0951992686 Cemais Publications £14.95 Cyfrol o atgofion yr awdur am ei blentyndod yn Sir Benfro, a’i gyfnod yn Llundain.
MYSTERIOUS WALES: Chris Barber 1872730094 Blorenge Books £9.99 Llyfr i'w ddarllen o ran pleser yn ogystal ag fel teithlyfr defnyddiol.
OFFA'S DYKE CIRCULAR WALKS - SOUTHERN SECTION (KNIGHTON TO CHEPSTOW): Ian Coulthard 1850587256 Sigma Press £7.95 25 taith gerdded o amgylch ardal Clawdd Offa i'r de o Knighton.
A PEMBROKESHIRE ANTHOLOGY: Dillwyn Miles 0951992694 Cemais Publications £9.95 Detholiad o lenyddiaeth am Sir Benfro a’i phobl.
A PONTYPRIDD CHILDHOOD: David Hector Williams 0000872865 L.E.M. Williams £3.00 Atgofion un o blant ardal Pontypridd.
PULLING MY SELVES TOGETHER - OVERCOMING DISSOCIATIVE PERSONALITY DISORDER: Dilys Gater 189867003X Anecdotes Publishing £9.95 Dyddiadur yn cofnodi taith yr awdur tuag at wella o afiechyd meddyliol.
SOUTH WALES IN FOCUS: Barry Needle 1854112570 Seren £15.00 Ffotograffau o olygfeydd o dde Cymru, o'r naturiol i'r diwydiannol.
WARTIME MEMORIES: Kathleen Healy 0722333137 Arthur H. Stockwell Ltd. £3.99 Atgofion yr awdures, yn ddilyniant i Growing up in a Welsh Valley.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales

|  | 
|