
 |  | Diwrnod Glyndwr - pob math o ddigwyddiadau
| Safle cartref Glyndwr yn agored i’r cyhoedd
Y mae safle cartref yr arwr Cymreig Owain Glyndwr yng Nglyndyfrdwy, ger Corwen, lle y lansiodd ei wrthryfel yn erbyn y Saeson, i’w agor i’r cyhoedd penwythnos nesaf, Medi 16 ac 17, chwe chan mlynedd yn union ar ôl iddo gychwyn ei ymgyrch.
Bydd Dr Sian Rees, un o arolygwyr Cadw, asiantaeth y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn gyfrifol am henebion Cymru, yn dangos i ymwelwyr y safle hanesyddol lle cyhoeddwyd Glyn Dðr yn dywysog Cymru, fel rhan o sioe arbennig, y Llangollen Railway Transport Extravaganza, yng Ngharrog.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae Cadw wedi cwblhau cryn dipyn o waith adfer ar y safle, tra bo panel gwybodaeth yn rhoi hanes Glyndwr hefyd wedi ei osod yno.
Y mae Cadw yn darparu arddangosfa ar fywyd Glyndwrr a fu’n brwydro am bymtheng mlynedd. Fe fydd arddangosfeydd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, ar Sir Ddinbych yn ystod y Canol Oesoedd, a Bio-amrywiaeth, hefyd ar gael.
Fe ddisgwylir miloedd o ymwelwyr i fynychu’r digwyddiad, a gynhelir gyda chydweithrediad y Vale Vintage Machinery Society.
Fe fydd ymwelwyr i fwnt Glyndwr yn cael eu cludo yno o faes y sioe.
Er bod pris mynediad i’r sioe yw £3 (oedolion), £2 (henoed), £1 (plant) y mae mynediad i’r arddangosfa ac i fwnt Glyndwr, yn rhad ac am ddim.
Bu ymateb o bob rhan o Gymru i ddiwrnod Cenedlaethol Owain Glyndwr gyda phob math o ddigwyddiadau wedi eu trefnu.
Dyma’r manylion diweddaraf gan Lysgenhadaeth Owain Glyndwr, y corff gwirfoddol sy’n llywio’r gweithgareddau.
Sioeau Sgyrsiau a Sleidiau gan Chris Barber Blaina ger Bryn Mawr: Dydd Llun 11 Medi. 7.30pm Trefnir gan 'Ffrindiau Ty Tredegar.
Amgueddfa Wrecsam. Dydd Gwener Hydref 20. 7.30pm Sioe ar gyfer y plant ar y dydd Sadwrn Hydref 21. Am fanylion pellach, ffoniwch Karen Harris ar 01978 317970
Castell Ruperra.: Dydd Mawrth Tachwedd 28. Trefnir gan Ffrindiau Castell Ruperra.
TAITH GLYNDWR Taith hybu llên yr Academi Gymreig Yn y Gogledd gyda Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Geraint Lovegreen. Nos Lun 11 Medi: Clwb Rygbi Bethesda. Nos Fawrth 12 Medi: Gwesty'r Castell, Rhuthun. Nos Fercher 13 Medi: Yr Eagles, Llanuwchllyn Nos Iau 14 Medi: Y Ring, Llanfrothen Nos Wener 15 Medi: Llanfair Caereinion rhywle.
Yn y De gydag Emyr Lewis, Grahame Davies, Elinor Wyn Reynolds, Gwyneth Lewis. Nos Sul 10 Medi: Canolfan Chapter, Caerdydd. Nos Lun 11 Medi: Institiwt y Glowyr, y Coed Duon. Nos Fercher 13 Medi: New Inn, Craic Cefn Parc Nos Iau 14 Medi: Amgueddfa Abergwili, Caerfyrddin. Nos Wener 15 Medi: Y Cwps, Aberystwyth.
Bydd y ddau griw o feirdd yn diweddu'r daith yn Celtica, Machynlleth nos Sadwrn 16 Medi.
GWASANAETH GOFFA Cynhelir Gwasanaeth Coffa ar gyfer y 600mlwyddiant yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin am 2.30pm ar Fedi 17.
CEFNOGAETH GWYNEDD Cefnogodd Cyngor Sir Gwynedd yr ymgyrch am Statws Swyddogol i 'DDYDD OWAIN GLYNDWR' fel Dydd Cenedlaethol. Bydd hefyd, ynghyd â Chynghorau Trefi Pwllheli a'r Bala, am chwifio baner 'Pedwar Llew Rampiant' Owain Glyndwr ar Fedi 16 bob blwyddyn.
Mae nifer o gynghorau eraill wedi addo trafod ac ystyried y mater.
"Hoffem apelio am i bawb, drwy Gymru benbaladr, sy'n gefnogol i'r ymgyrch i ddyfalbarhau a'r gwaith o bwyso ar eu cynghorau lleol a Sirol i ddilyn esiampl Cyngor Sir Gwynedd ac i gyhoeddi eu cefnogaeth yn ddi-oed. Mae'n hynod o bwysig i lwyddiant yr ymgyrch yma, i fynegi ein safiad yn unol fel cenedl. Erfyniwn ar bob cyngor i weithredu nawr," meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch.
Rhuban i bawb Ychwanegodd y bu lansiad Rhuban Owain Glyndwr yn Eisteddfod Llanelli yn llwyddiant mawr gyda nifer helaeth o 'enwogion' yn gwisgo'r rhuban gydol yr wythnos.
. Gwisgodd Dafydd Iwan y rhuban a chyhoeddi manylion am yr ymgyrch yn ei Gyngerdd Mawr ar ddydd Llun y Steddfod ac yna wedyn yn ei gyngerdd ar y nos Wener.
Yn ogystal â chynghorau Gwynedd, Pwllheli a Bala a nifer o Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, mae'r canlynol wedi arwyddo deiseb i gefnogi'r ymgyrch: Dr Gwynfor Evans, Kenneth Griffiths, Dr Robin Lewys, Myrddin ap Dafydd, Ray Gravell, Jenny Sullivan, Chris Barber, Terry Breverton, Robat Gruffudd, Jan Morris, Twm Morys, Dafydd Iwan, Jill Evans (ASE) Yr Arglwydd Geraint Howells, Dr John Davies, John Pierce Jones, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Y Tad Deiniol, Delwyn Sion, Llion Williams, Iwan Llwyd, Ffrindiau Castell Bryn Buga, Cymdeithas Owain Glyndwr, Cymdeithas Abaty Cwm Hir, Tarian Cymru, Cymru Annibynol, 'Alliance For The Welsh Nation, Pwyllgor Llywelyn ap Gruffydd Fychan ac erbyn hyn mae pedwar ysgol wedi archebu rubanau yn ogystal â grw^p o aelodau o Blaid Cymru, Casnewydd. Gellir cael rhuban mewn unrhyw siop lyfrau Gymreig yng Nghymru a bydd rhai ar gael ar stondinau ym Machynlleth a Rhuthun ar Fedi 16. Er nad oes pris penodol disgwylir i bawb roi cyfraniad yn y blychau casglu.
Hefyd ar werth, mae cylchgrawn Llysgenhadaeth Glyndwr, Galwad Glyndwr,am bunt y copi.
Gellir hefyd gael rhubanau neu'r cylchgrawn drwy ffonio'r Llysgenhadaeth ar 029 20307018 neu drwy E-bost: sian@embassy-glyndwr.co.uk
BANERI PEDWAR LLEW Bu Eleri Carrog (Cefn) yn addurno strydoedd Caernarfon a'r baneri. Gwerthodd 80 ohonynt i fusnesau lleol ac y mae hi a '100% Caernarfon', criw o bobl fusnes, wedi gosod arddangosfa i gofnodi 600mlwyddiant Glyndwr yn ffenestri rhai o siopau gweigion Caernarfon.
Ysgrifennwyd at Brif Ysgrifennydd y Cynulliad Cymreig, Rhodri Morgan,yn awgrymu bod y Prif Ysgrifennydd yn annerch y genedl ar Fedi 16 bob blwyddyn.
Bydd Ymgyrch Treftadaeth Cymru yn gosod y dyddiad 1400 - 2000 mewn ffigurau mawr ar gae yn Nant Garedig. Byddant yno am bythefnos a gellir eu gweld yn glir oddi ar ffordd yr A40. Yn ogystal, bydd coelcerth yn cael ei chynneu yn y cae, Medi 15.
Mae rhaglen arbennig wedi ei threfnu ar gyfer Rhuthun:
Darlith: Dr Tony CarrProsesiwn llusern i ddilyn 7.30Nos Wener. Neuadd y Dref
Taith gerdded Edward Llwyd 9.00 - 12.00 Bwrdd y Tri Aglwydd - Rhuthun
Arddangosfa o luniau gwreiddiol Margaret Jones wedi'i drefnu gan y Llyfrgell Genedlaethol.Sesiynau dweud stori i'r teulu cyfan gyda Catherine Arran 11.00 ymlaen Llyfrgell y Dref
Cyflwyniadau gan unigolion a grwpiau Anerchiad gan Dafydd Iwan 1.00 – 2.00 Neuadd y Dref/
Ailgreu pentref a gwersyll hanesyddol 1.00 ymlaen Cae-ddôl
Dadorchuddio plac coffa Dafydd Iwan 2.15 Sgwâr y dref
Pasiant stryd gan blant ysgolion lleol 2.30 – 3.15 Sgwâr/Square – Stryd y Castell – Stryd Clwyd
Gorymdaith o'r Sgwar i Gae-ddôl 3.15
Anerchiad: Michael Roberts, Samhain 3.00 – 3.35 Cae-ddôl
Brwydr 5.00 Cae-ddôl |  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|