bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Gwartheg Y llyfrau diweddaraf
sydd ar werth

Ac hefyd - dau adolygiad:
• Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen
Cyfrol am wartheg

Dydd Iau, Awst 24, 2000


I fynd yn syth i'r rhestr o lyfrau newydd cliciwch yma


Adolygiad Esyllt Môn Jones o Cur y Nos gan Geraint V. Jones.

Mae Geraint Vaughan Jones yn prysur ddod yn hen law ar ennill Gwobr Goffa Daniel Owen. Enillodd gyda Yn y Gwaed (1990), Semtecs yn 1998 gyda Cur yn y Nos, eleni, y drydedd i ennill y wobr.

Mae hon yn nofel sy’n cydio’n hypnotig yn nychymyg y darllenydd - does dim modd ei rhoi o’r neilltu.

Nofel ddi-bennod yw hi a rhaid ei darllen ar un eisteddiad - ac fe wnes i hynny o ddewis. Hawliodd fy sylw am ddiwrnod cyfan. Roedd yn rhaid imi gael gwybod beth fyddai tynged Robert Cairns.

Nofel gyffro, seicolegol, yw hon gyda Robert Cairns, cyn ei ymddeoliad, yn rheolwr cwmni llongau a phennaeth marchnata cwmni electronig.

Mae ei fam yn dymuno iddo olrhain achau’r teulu ac o wneud yn ôl ei dymuniad mae’n mynd i ganol dirgelion yn ymwneud â hanes eu gyn-deidiau.

Wrth geisio’i ddatrys mae’n canfod hanes cyfres o lofruddiaethau yng nghyffiniau Lerpwl ar droad y ganrif. Drwy chwilota mewn archifdai a llyfrgelloedd mae’r darnau’n disgyn i’w lle.

Ond nid nofel am ddyn yn ei chwedegau yn chwilota mewn llyfrgelloedd ydy hon. Mae stori arall yn cydredeg â hi - sef obsesiwn rhywiol Cairns gyda’i gyn-ysgrifenyddes, Katherine Forden.

Caiff ei boenydio yn feddyliol am y garwriaeth a fu. Myn wybod popeth a wna a hynny bob awr o’r dydd a’r nos.

Drwy ei ffonio hi ddydd a’r nos mae’n amlwg y daw rhyw ddrwg o’r obsesiwn.

Llwydda’r nofel i greu darlun trist o’r math o gymdeithas a fodolai yn Bootle yn y 1940au - tlodi mawr, plant yn llwgu a marw o’r diciâu, tadau’n ddiffrwyth o ganlyniad i anafiadau rhyfel a mamau dagreuol yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd. Yr un math o gymdeithas ag oedd yn nodweddu ardal Bethesda yn Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

Mae’n nofel glyfar sy’n procio’r darllenydd yn barhaus. Does dim modd rhagweld y diweddglo - a phan ddatgelir y cyfrinachau fe wneir hynny’n ysgytwol.

Gwaith gafaelgar sy’n dangos pam fod Geraint V. Jones yn rheng flaen nofelwyr Cymraeg y ganrif.

Cyhoeddir Cur y Nos, Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen 2000, gan Wasg Carreg Gwalch, pris £7.00.

I ddarllen yr adolygiad o lyfr Twm Elias am wartheg, cliciwch yma: Gwartheg



Ac yn awr dyma restr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau diweddaraf i gyrraedd y siopau.



LLYFRAU CYMRAEG A DWYIEITHOG

A 'BOOK OF MAD CELTS': Marion Löffler 1859028969 Gwasg Gomer £7.95 Llyfr dwyieithog yn adrodd hanes John Wickens a Chyngres Geltaidd Caernarfon 1904.

BYGI-BYTIS: FY LLIWIAU:
1855964449 Dref Wen £2.99 Llyfr gair-a-llun i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.

BYGI-BYTIS: FY RHIFAU:
1855964430 Dref Wen £2.99 Llyfr gair-a-llun i blant dan 5 oed i'w gysylltu wrth fygi.

CERDDI CWRS Y BYD:
Wynne Ellis 1900437406 Cyhoeddiadau Barddas £7.95 Cyfrol o gerddi dychanol am fyd y beirdd.

CERDDI'R TROAD - BARDDONIAETH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Dafydd Rowlands 1859028179 Gwasg Gomer £7.95 Cerddi gwreiddiol gan feirdd cyfoes wedi eu hysgrifennu i ddathlu'r mileniwm.

CEWRI CAMPAU CYMRU: Gol. Alun Wyn Bevan 1859028217 Gwasg Gomer £8.95 Llyfr yn llawn lluniau a hanesion am enwogion byd chwaraeon yng Nghymru.

COFIO HANNER CANRIF - HANES MUDIAD EFENGYLAIDD CYMRU 1948-98: Noel Gibbard 1850491739 Gwasg Bryntirion Press £9.95 Cyfrol yn dathlu hanner can mlynedd o'r Mudiad Efengylaidd yng Nghymru.

CUR Y NOS:
Geraint V. Jones 0863816495 Gwasg Carreg Gwalch £7.00 Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU LLANELLI 2000: 0953855406 Llys yr Eisteddfod (De) £4.50 Cynnyrch llenyddol buddugol a beirniadaethau'r Eisteddfod.

CYFRES BARA'R BYWYD: 36. EFENGYL IOAN: Edmund Owen 1850491720 Gwasg Bryntirion £1.95 Esboniad byr, syml ar gyfer pob dydd o'r mis.

CYFRES CELF CYMRU 2000: ANEURIN: Gol. Emyr Llywelyn 086243534X Y Lolfa £19.95 Llyfr o waith Aneurin Jones.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: ANTHEM GENEDLAETHOL, YR / THE NATIONAL ANTHEM:
Aeres Twigg 1859028853 Gwasg Gomer £1.95 Hanes yr Anthem Genedlaethol, gyda nifer o luniau lliw. Llyfr dwyieithog.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: DDRAIG GOCH, Y / THE RED DRAGON: Aeres Twigg 1859028861 Gwasg Gomer £1.95 Hanes cefndir mabwysiadu'r ddraig goch yn symbol cenedlaethol. Llyfr dwyieithog.

CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: SOSBAN FACH:
Aeres Twigg 185902887X Gwasg Gomer £1.95 Hanes y gân rygbi enwog. Llyfr dwyieithog.

CYFRES LLYFFANTOD: VIVA CYMRO!:
Meinir Pierce Jones Darl. Elwyn Ioan 185902713X Gwasg Gomer £4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.

CYFRES Y CYMOEDD: CWM GWENDRAETH: Gol. Hywel Teifi Edwards 1859028918 Gwasg Gomer £13.95 Cyfrol yn olrhain hanes y cwm lle cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2000.

ELFED - CAWR AR GOESAU BYR: Ioan Roberts 0862435277 Y Lolfa £5.95 Cyfrol goffa i Elfed Lewis y baledwr.

FFRINDIAU: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028578 Gwasg Gomer £5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori am ffrindiau; ar gyfer plant dan 7 oed.

GYDA'R GODRE: Tecwyn Ellis 0000870684 Tecwyn Ellis £7.50 Atgofion yr awdur, sydd yn hanu o’r Bala.

IESU'R IDDEW A CHYMRU 2000: Pryderi Llwyd Jones 0862435439 Y Lolfa £6.95 Cyfrol gan weinidog adnabyddus, yn cyflwyno Iesu i ni heddiw.

Y LLAFN GOLAU:
Vernon Jones 185902873X Gwasg Gomer £4.95 Cyfrol o gerddi newydd, teimladwy gan y bardd o ardal Aberystwyth.

LLYFRAU LLAFAR GWLAD:46. 'FYL'NA WEDEN I’: Huw Evans, Marian Davies 0863816304 Gwasg Carreg Gwalch £4.25 Blas ar dafodiaith canolbarth Ceredigion.

NEWID AELWYD - LLYFR 5 O HELYNTION TOMOS A MARGED:
W.J. Gruffydd Darl. Tegwyn Jones 1859028276 Gwasg Gomer £4.95 Straeon am y cymeriadau poblogaidd oddi ar y gyfres ar Radio Cymru.

NOFELAU NAWR: CADWYN O FLODAU: Sonia Edwards 1859028632 Gwasg Gomer £3.50 Nofel i ddysgwyr am Lia, sydd wedi ei chaethiwo mewn priodas anhapus.

O HENDREFIGILLT I LIVORNO: T. Gwynfor Griffith 1859028195 Gwasg Gomer £9.95 Hanes Llewelyn Lloyd, un o artistiaid pwysicaf Cymru a'r Eidal.

OWAIN A'R ROBOT: Ian Whybrow Addas. Emily Huws Darl. Adrian Reynolds 1859028594 Gwasg Gomer £4.50 Stori ddifyr i blant dan 7 oed.

PAWB GYDA'I GILYDD: Rob Lewis Addas. Helen Emanuel Davies 1859028586 Gwasg Gomer £5.50 Llyfr lliw-llawn yn adrodd stori; ar gyfer plant dan 7 oed.

RHUBAN GLAS, Y - GWOBR GOFFA DAVID ELLIS 1943-2000: R. Alun Evans 1859028942 Llys yr Eisteddfod (De) £4.95 Hanes y Rhuban Glas, a nodiadau ar bob un a’i enillodd rhwng 1943 a 2000.

RHUBANAU DUR / RIBBONS OF STEEL: Jon Dressel, T. James Jones 1859028896 Gwasg Gomer £5.00 Cerdd wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan y ddau fardd i ddathlu Eisteddfod Llanelli.

STORÏAU'R TROAD - RHYDDIAITH NEWYDD I'R MILENIWM: Gol. Manon Rhys 1859028039 Gwasg Gomer £9.95 Deunaw o storïau byrion gan awduron cyfoes yn trafod dathlu'r mileniwm.

SWS I SEREN: Phyllis Root Addas. Meinir Pierce Jones Darl. Will Hillenbrand 1859028810 Gwasg Gomer £5.50 Rhaid i Cadi Mai roi sws i Seren y fuwch hud i ddiolch am ei llaeth melys.

TRI MOCHYN BACH: Eirug Wyn 0862435536 Y Lolfa £5.95 Cyfrol y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

LLYFRAU SAESNEG O DDIDDORDEB I GYMRU

THE ADVENTURES OF A ROMANTIC:
Bernard Jay 1873827504 Logaston Press £9.95 Stori am y gwrthgyferbyniad rhwng henoed ac ieuenctid, ffantasi a realiti.

CELTIC POETS, THE - SONGS AND TALES FROM EARLY IRELAND AND WALES:
Trans. Patrick K. Ford 0926689053 Ford & Bailie, Publishers £15.00 Casgliad o gerddi o'r Canol Oesoedd, gyda chyfieithiadau.

CELTIC TRAIL, THE - WEST - SWANSEA TO FISHGUARD / LÔN GELTAIDD - GORLLEWIN - ABERTAWE I ABERGWAUN: 1901389138 Automobile Association £5.99 Map ac arweinlyfr i'r lôn feiciau o Abertawe i Abergwaun.

LITTLE BLUE GROWS UP - A STORY FROM DRAGON KINGDOM:
Sandra Alich Storr Ill. Oliver Mundy 0953878503 Preserves and Books £4.95 Stori am deulu o ddreigiau sydd yn byw ar fwyd dreigiau hudol iachus iawn!

GRACE, GRIT AND GUMPTION - SPIRITUAL REVIVAL IN SOUTH WALES: Geraint Fielder 1857925009 Gwasg Bryntirion Press £6.99 Hanes John Pugh, Seth Joshua a Frank Joshua.

HOPPERS SERIES: LOOKING FOR CYMRO: Meinir Pierce Jones Trans. Ann Saer Ill. Elwyn Ioan 1859027628 Pont Books £4.95 Stori wedi'i gosod yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ferch ifanc o Batagonia.

THE LABOUR PARTY IN WALES 1900-2000: Eds. Duncan Tanner, Chris Williams, Deian Hopkin 0708315860 Gwasg Prifysgol Cymru £35.00 Cyfrol ar hanes y Blaid Lafur yng Nghymru, ar achlysur ei chanmlwyddiant.

MORE WALKS ON THE CLWYDIAN HILLS:
David Berry 1902302109 Kittiwake £3.95 Pymtheg o deithiau cerdded yn ardal Bryniau Clwyd.

REJOICE IN YOUR OWN WORKS:
Ange S. Vlachos Trans. John Fitzgerald Ill. Paul S. Vlachos 1898685312 Philomel Productions Limited £9.99 Cyfrol o fyfyrdodau mewn pump o ieithoedd gwahanol.

REMINISCENCES OF WALES 1924-1942:
Nathan Hughes 0970315406 Welsh Dragon Publishing £15.00 Atgofion yr awdur, sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau.

WELSH CASTLES - A GUIDE BY COUNTIES:
Adrian Pettifer 0851157785 Boydell and Brewer £25.00 Arweinlyfr i gestyll Cymru fesul sir, gyda hanes byr pob un.

THE WELSH SALE:
0000873012 Sotheby's £2.00 Manylion yr eitemau a werthwyd mewn ocsiwn ym Mharc Margam, 19 Hydref 1999.

WILD BRITAIN - A TRAVELLER'S GUIDE:
Douglas Botting 1873329318 Sheldrake Press £12.50 Arweinlyfr yn cynnwys lluniau lliw-llawn, diagramau a mapiau.

WOMEN AND GENDER IN EARLY MODERN WALES:
Eds. Michael Roberts, Simone Clarke 070831550X Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol yn trafod profiadau cymdeithasol a diwylliannol merched yng Nghymru.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar logo gwales
News image

Wythnosau Blaenorol:

News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy