bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


News imageAr drywydd gwartheg
Cymru


Cychwyn da i gyfres
am dda byw

Dydd Iau, Awst 24, 2000
Adolygiad gan Ioan Mai Evans

Croeso i’r gyfrol gyntaf mewn cyfres am dda byw Cymru gan gychwyn gyda’r Gwartheg.

Mae’r gwaith gan Wasg Carreg Gwalch yn gymen a chanmoladwy, a’r ymdriniaeth gan yr awdur yn feistrolgar fel arfer gan Twm Elias.

Mae’n olrhain hanes y fuwch o gyfnod y dofi cynhanesyddol mor bell a Mesopotamia, a heibio wedyn i’r amaeth cynnar yn y wlad hon a hyd at ddyddiau’r hafod a’r hendref a ch’lamai a ch’langaeaf.

Arweinir y darllenydd ymlaen i’r canol oesoedd at y dulliau o aredig gyda’r ychen. Ceir golwg ar y datblygiadau yn amser Hywel Dda a Gerallt Gymro, heb anghofio cyfraniad yr anifail i’n chwedloniaeth a’n llên, fel yn chwedl Llyn y Fan Fach, a stori Culhwch ac Olwen.

Camu ymlaen wedyn i’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dod ar draws Triban fel hwn er hybu’r ychen:

Dau ych yw Sali a Sowin
Un yn goch a’r llall yn felyn
Pan yn aredig yn eu chwys
Hwy dorrai gwys i’r blewyn.


Caiff blynyddoedd y Chwyldro Diwydiannol a’r adwaith ar amaethu ei le gyda dyfodiad y Porthmyn llawn rhamant.

Ac yn drefnus ddigon aiff yr is-deitlau - y Porthmyn a Cherdded Gwartheg, Marchnadoedd Lloegr, Disgrifiadau o Ffair Barnett, Dyfod Dyfodiad y Rheilffordd, Effaith y ffeiriau a’r Gyfundrefn Farchnata a ni at y buchesi pedigri a’r Gwartheg Duon Cymreig, nes dod at argyfwng y nawdegau.

Rhaid cyfeirio at yr hanner cant o luniau prin sydd yn y gyfrol a hefyd y llyfryddiaeth ar y diwedd.

Gwartheg - Llyfr dwyieithog gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch. £3.50 - cychwyn ar gyfres gyda chyfrol gampus gwerth dwbl ei phris.

I ddychwelyd i'r rhestr o lyfrau newydd ac adolygiad o Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen cliciwch yma

 
Wythnosau Blaenorol:

News image

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
News imageAdolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

News imageAdolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
News imageLlais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
News imageY Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2
News image



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy