Milltir sgwar arwyr ffilm Arwyr ffilm ardal Llanelli a Phorth Talbot - ac ambell i Gog!
Y mae ardal yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu pump o actorion sydd, rhyngddyn nhw, wedi cael eu henwebu am Oscar 14 o weithiau. Ac mae tri ohonyn nhw wedi ennill y brif wobr hon ym myd ffilmiau.
Yn y filltir sgwar dalentog hon rhwng Llanelli a Phorth Talbot y ganwyd Ray%20Milland - Reginald Alfred Truscott-Jones wrth ei enw go iawn! - Richard Burton, Rachel Roberts, Anthony Hopkins a Catherine Zeta Jones y bu Tomos Morse, a fu'n astudio ffilm yn yr Unol Daleithiau, yn sôn amdanynt ar raglen radio Rebeca Jones fore Llun 25 Chwefror 2008.
Tomos Morse yn siarad gyda Rebecca Jones, fore Llun 25 Chwefror 2008. Ray%20Milland, meddai, oedd y person cyntaf o Gymru i ennill Oscar. "Cafodd un enwebiad ac fe enillodd e nôl yn 1945 am y ffilm, The Lost Weekend lle'r oedd e'n chwarae rhan alcoholig," meddai.
"Wedyn, cafodd Richard Burton saith enwebiad ond erioed wedi ennill.
Rachel Roberts o Lanelli wedyn wedi cael ei henwebu unwaith.
Anthony Hopkins wedi cael pedwar enwebiad ac wedi ennill unwaith a
Catherine Zeta Jones wedi cael un enwebiad ac wedi ennill hefyd."
Pobl eu hardal Y cwestiwn wedyn oedd; Sut y sicrhaodd ardal mor fechan gymaint o enwau mawr?
"Mae'n ardal lle'r oedd lot o ddiwydiant lle'r oedd hi'n rhyw fath o ryddhad i bobl wneud rhywbeth gwahanol a beth oedd angen oedd tiwtoriaid fel y cafodd Richard Burton yn Philip Burton.
"Wedyn roedd Rachel Roberts a dylanwad mawr o'r capel felly roedd y theatrics yna'n barod iddi hi.
"Anthony Hopkins yn fab i bobydd a Catherine Zeta, wel rwy jyst yn credu mai song and dance girl yw hi.
"Felly does dim unrhyw fath o batrwm ond mae'n ardal ddiwydiannol a dwi'n credu o ran cefndir mai Richard Burton â'i cafodd hi galetaf.
Ac ef enillodd fwyaf [o enwebiadau] a dwi'n credu ei bod yn annheg iawn ei fod wedi colli allan ar Oscar," meddai Tomos Morse.
Dal i godi actorion Am Port Talbot dywedodd bod yr ardal yn dal i godi actorion:
"Michael Sheen, nawr - ac o fewn blwyddyn rwy'n credu y bydd ef wedi ennill Oscar achos mae yna ffilm mas yna ar hyn o bryd - Frost Nixon - am y cyfweliad enwog rhwng David Frost a Richard Nixon.
"Ac ef sy'n chwarae rhan David Frost sy'n rhan y byddai pob actor yn dwli ei chael ac rwy'n credu erbyn y flwyddyn nesaf y byddwn yn ei weld e'n cael enwebiad am y rhan yna," meddai.
Nid Cymry Yng ngolwg y byd, fodd bynnag, dywedodd mai'r duedd yw i ystyried yr actorion rhyngwladol hyn nid yn Gymry ond yn "English actors"
"Yn yr America mae eich bod yn Gymro yn cael ei golli," meddai.
Fodd bynnag, dywedodd bod y sefyllfa'n wahanol yng nghyd-destun ffilmiau o Brydain yn y pedwar a'r pum degau.
"Roedd actorion fel Mervyn Johns a Meredith Edwards yn gallu actio fel Cymry.
Meredith Edwards "Meredith Edwards yn actio rhan plismyn, postmyn, pobyddion, beth bynnag - ond roedd e bob tro'n Gymro ac yn sticio geiriau Cymraeg i mewn oherwydd roedd e'n i weld fel llwyfan i bwsio'r Gymraeg . . . [ac yn] The Long Arm lle mae'n edrych ar ôl garej a'r plismyn yn moyn gweld ei log book ac roedd e'n siarad Saesneg nes cyrraedd y log book ac yn [darllen], 'Dydd Sul' [wedyn]," meddai.
Yn y ffilm Dunkirk wedyn geiriau Cymraeg oedd rhai olaf y milwr clwyfedig a chwaraeodd.
Hugh Griffith Cyfeiriodd at Hugh Griffith hefyd yn siarad Cymraeg - gyda'r ceffylau yn y ffilm Ben Hur lle'r enillodd Oscar am ei ran fel y Sheik.
Yn ôl yr hanes pan ofynnwyd iddo "siarad rywbeth yn debyg i Arabeg" dewisodd siarad Cymraeg yn ôl Tomos Morse a hynny'n peri i'r rhai o gwmpas dybio fod ganddo Arabeg!
Ychwanegodd Tomos Morse fod y Pumdegau a'r Chwedegau yn gyfnod eithaf cryf i actorion o Gymru gydag action fel Stanley Baker, Hugh Griffith, Kenneth Griffith a Richard Burton, Ray Milliand, Clifford Evans a Rachel Roberts.
Y dyfodol
"Wedyn bu yna gyfnod pan nad oedd dim cymaint o dalent yn dod allan o Gymru.
"Efalle mai'r unig un oedd Anthony Hopkins - ond yn awr mae gennym ni Rhys Evans, Michael Sheen, Matthew Rhys a dwi hyd yn oed yn meddwl fod Rob Brydon - bachan arall o Bort Talbot - yn mynd i'w gwneud hi fel actor comic; Ioan Gruffudd wrth gwrs, Catherine Zeta Jones - ac mae yna bobl fel Owain Yeoman . . .
"[Felly] mae yna dalent yn dod o'r ochr Gymraeg o hyd ac fel roedd Clifford Evans yn dweud [mae'n] bwysig fod actorion yn mynd allan o Gymru i gael profiad ac wedyn dod yn ôl a dwi'n credu fod hwnna'n bwysig a dwi'n credu hefyd fod angen lledaenu y Cymreictod yma allan o Gymru hefyd," meddai Tomos Morse. Cysylltiadau Perthnasol

| |