Mae Peiriant Amser yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:
- Astro Antics (Cymraeg Ail Iaith)
- Camau Cyfri (Mathemateg)
- Doctor Dot (Gwyddoniaeth)
- Y Goeden Greu (Cymraeg Mamiaith)
Mae'r Peiriant Amser yn barod i fynd ar daith, felly neidiwch i mewn! Mae dau o'r gweithgareddau hanes yma wedi eu seilio ar fywydau a phrofiadau plant o'r oedran yma. Mae'r ddau arall yn rhoi cyfle iddyn nhw deithio nôl mewn amser i'r Oes Edwardaidd ac Oes y Cerrig.
Fy Niwrnod i
Gosodwch ddigwyddiadau bob dydd, fel mynd i'r ysgol a gwylio teledu, yn nhrefn amser. Argraffwch eich gwaith a gwyliwch ffilm wedi ei hanimeiddio o'ch diwrnod.
Sut Dw i Wedi Newid
Dangoswch sut rydych chi wedi newid oddi ar pan oeddech chi'n fabi. Gosodwch ddigwyddiadau yn eich bywyd yn y drefn gywir. Dangoswch i Bembo'r mwnci faint rydych chi wedi newid oddi ar i chi gael eich geni ac efallai bydd e'n dawnsio a chanu cân i chi.
Pobl yr Ogof
Teithiwch yn ôl i Oes y Cerrig i baratoi am barti! Allwch chi ddarganfod digon o fwyd i bawb, addurno'r ogof a chynnau tân? Bydd dau blentyn yn eich tywys drwy'r tasgau ac yn dweud wrthoch chi am fywyd yn Oes y Cerrig.
Synau 'Stalwm
Profwch fywyd ar stryd yn yr Oes Edwardaidd. Cewch chi gwrdd â chymeriadau wedi eu hanimeiddio a gofyn cwestiynau iddyn nhw. Dewch o hyd i wrthrychau yn y gwahanol leoliadau i'w gosod yn eich amgueddfa. Casglwch synau i'w defnyddio mewn cân arbennig a fydd yn cael ei pherfformio yn y neuadd gerdd.
Cymorth Sain a Gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' tra eich bod chi'n darllen y Nodiadau i Rieni ac Athrawon.
Gallwch chi hefyd symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.