Young carer (fideo Saesneg)

Gwers sensitif sy'n rhoi cyfle i'r disgyblion ddangos empathi tuag at ofalwyr ifanc a'r problemau maent yn eu hwynebu. Bydd disgyblion yn deall sut i fod yn hyderus wrth fynd ati i gael mynediad at gyngor a chefnogaeth bersonol broffesiynol.

Mae'r wers hon yn defnyddio iaith arwyddion fel gweithgaredd datrys problemau cychwynnol.

Clip o'r stori

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod sefyllfaoedd weithiau lle mae'n rhaid i unigolion ddelio ag amgylchiadau personol anodd a bydd angen i'r person hwnnw gael mynediad at gyngor a chefnogaeth iechyd proffesiynol.

Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Bod sefyllfaoedd weithiau lle mae'n rhaid i unigolion ddelio ag amgylchiadau personol anodd a bydd angen i'r person hwnnw gael mynediad at gyngor a chefnogaeth iechyd proffesiynol, a'u bod yn dangos empathi tuag at sefyllfa'r gofalydd ifanc.

Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol y cyngor a chefnogaeth broffesiynol sydd ar gael i unigolion sy'n delio ag amgylchiadau personol anodd, ac yn dangos empathi tuag at sefyllfa'r gofalydd ifanc.

Gweithgareddau ar gyfer y wers

Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd/taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu

Dechrau'r wers: Dehongli

Parau

Y disgyblion i weithio mewn parau. Rhoddir gair allweddol i un o'r disgyblion a Taflen 1 - Iaith Arwyddion Prydain i'r ddau ddisgybl.

Mae'n rhaid i'r disgybl a gafodd y gair allweddol ddefnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu'r gair i'r partner arall. Unwaith iddynt orffen, yr athro i ysgrifennu'r geiriau allweddol ar y bwrdd gwyn a gofyn i'r dosbarth adnabod y pwnc.

  • Geiriau allweddol
  • Anabledd
  • Perthnasau
  • Dibyniaeth
  • Epilepsi
  • Grŵp cefnogi
  • Strategaeth ymdopi
  • Cyfrifoldeb
  • Teulu

Yn hytrach na dosbarthu copïau o Iaith arwyddion Prydain, gellid ei daflunio ar y bwrdd gwyn.

Mewnbwn yr athro

Y dosbarth cyfan

Yr athro i gyflwyno'r pwnc i'r dosbarth, sef gofalwyr ifanc, a dangos empathi tuag at ddisgyblion sydd o bosib yn gorfod ymgymryd â'r rôl hon.

Efallai bod angen i'r athro fod yn ymwybodol ac yn sensitif o ddisgyblion yn y dosbarth sy'n ofalwyr ifanc eu hunain.

Yr athro i ddiffinio Gofalydd ifanc fel person dan 18 oed sy'n helpu neu'n gofalu am aelod o'r teulu sydd ag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl neu broblem cyffuriau neu alcohol.

Pwy sy'n darparu ar gyfer dy anghenion di o ddydd i ddydd?

Unigol

Y disgyblion i ddefnyddio Taflen 2 - Pwy sy'n darparu ar gyfer dy anghenion? i adnabod pwy sy'n darparu ar gyfer eu hanghenion nhw a sut y gwneir hynny.

Yn ei 'sgidiau hi

Unigol

Gofynnwch i'r disgyblion ddychmygu beth fyddai'n rhaid i ofalydd ifanc ei wneud o ddydd i ddydd. Rhestrwch y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau ar ddalen o bapur.

Clip fideo

Y dosbarth cyfan

Y disgyblion i wylio'r fideo

Sut mae hi'n teimlo?

Unigol

Y disgyblion i gwblhau Taflen 3 - Sut mae hi'n teimlo? ar ôl gwylio'r fideo.

Y gwirionedd

Grwpiau

Gan weithio mewn parau, yr athro i ddosbarthu Taflen 4 - Y gwirionedd a Taflen 5 - Siarter Gofalwyr Ifanc i bob grŵp. Y disgyblion i fynd ati i gysylltu'r gwirionedd gyda'r pwyntiau a wneir yn y siarter.

Adborth

Y dosbarth cyfan

Yr athro i gasglu adborth am weithgareddau Y gwirionedd a'r Siarter a thynnu sylw at bwyntiau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y drafodaeth.

Cymorth i ofalwyr

Y dosbarth cyfan

Trafodwch yr angen ar ofalwyr ifanc i gael mynediad at gymorth proffesiynol a sut gallent wneud hynny.

Ysgrifennu dyddiadur

Unigol

Y disgyblion i ysgrifennu cofnod dyddiadur drwy ddychmygu rôl Gofalydd ifanc, gan ddangos empathi gyda'r ystod o emosiynau y byddai'n eu profi.

Cyflwyniad

Unigol

Y disgyblion i wirfoddoli i ddarllen eu cofnod dyddiadur o brofiad Gofalydd ifanc.

Sylwadau ysgrifenedig

Unigol

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 6 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.

Eiconau

Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:

  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso rhif
  • TGC
  • Datrys problemau
  • Gweithio gydag eraill
  • Gwella eich perfformiad eich hun
  • Meddwl yn feirniadol
  • Meddwl yn greadigol
  • Archwilio ystyr
  • Myfyrio
  • Sgiliau ymchwilio
  • Sgiliau cyflwyno

Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):

  • Rhannu amcanion dysgu
  • Defnyddio cwestiynau
  • Adborth effeithiol
  • Modelu
  • Hunanasesu disgybl
  • Asesu gan gyfoedion
  • Asesu parhaus
  • Addasu addysgu/ adolygu
  • Cyfarfod Llawn

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.