Samaritans (fideo Saesneg)
Gwers wedi'i seilio ar waith grŵp sydd yn edrych ar iechyd a lles emosiynol ac yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu cymunedau.
Mae pwyslais ar ddefnyddio sgiliau creadigol i godi ymwybyddiaeth o rôl wirfoddol elusen y Samariaid yn y wers hon.
Clip o'r stori
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Am fudiad gwirfoddol sy'n gallu rhoi cefnogaeth i bobl sy'n dioddef problemau iechyd a lles emosiynol, a sut i gael cymorth a chefnogaeth. Sut i ystyried rôl gwirfoddolwr.
Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Am rôl y mudiadau gwirfoddol sy'n gallu rhoi cefnogaeth i bobl sy'n dioddef problemau iechyd a lles emosiynol, a sut i gael cymorth a chefnogaeth. Dysgu am rôl y gwirfoddolwr yn nhermau rhinweddau a sgiliau personol.
Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol y gefnogaeth mae pobl sy'n dioddef problemau iechyd a lles emosiynol yn cael gan fudiadau gwirfoddol, a sut i gael cymorth a chefnogaeth. Dysgu i asesu p'un a oes ganddyn nhw'r sgiliau a rhinweddau sydd eu hangen i fod yn wirfoddolwr eu hunain.
Dolenni Cwricwlaidd
Iechyd a Lles emosiynol
- y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a'r ffordd y gellir meithrin lles emosiynol.
- mudiadau statudol a gwirfoddol sy'n hybu iechyd a lles emosiynol.
- sut i gael mynediad i gymorth personol a chyngor proffesiynol ynghylch iechyd yn hyderus.
Dinasyddiaeth weithgar
- Datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill.
Gweithgareddau ar gyfer y wers
Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu
Dechrau'r wers : Llun i ddechrau'r drafodaeth

Yr athro i ddangos Taflen 1 - Llun i ddechrau'r drafodaeth i'r dosbarth a gofyn i'r disgyblion ystyried sut y mae'r person yn teimlo, pam ei bod yn teimlo felly, a beth gellid ei wneud.
Gadewch ryw dair munud iddyn nhw feddwl.
Adborth

Yr athro i annog adborth gan y dosbarth ac ysgrifennu eu sylwadau ar y bwrdd gwyn.
Mewnbwn yr athro

Yr athro i gyflwyno amcan y wers - sef ystyried iechyd a lles emosiynol a'r gwahanol ffyrdd o gael cymorth, ac edrych ar rôl gwirfoddolwyr mewn mudiad.
Trafodaeth am iselder

Yr athro i drafod problemau iechyd a lles emosiynol, yn enwedig iselder, gan ddefnyddio'r ystadegau canlynol:
Iselder
- Ar ryw bryd yn eu bywyd mae 4 o bob 10 person ifanc wedi teimlo mor ddiflas fel eu bod wedi crio/llefain ac wedi bod eisiau dianc rhag pawb a phopeth.
- Rhyw bryd yn ystod eu harddegau mae mwy nag 1 o bob 5 person ifanc â chyn lleied o feddwl o'u hunain fel nad ydynt yn gweld gwerth mewn byw. Er waethaf y teimladau cryf hyn, efallai nad yw'r iselder yn amlwg i bobl eraill.
Beth sy'n achosi iselder/teimladau hunanddinistriol?

Y disgyblion i weithio mewn grwpiau a defnyddio Taflen 2 - Achosion iselder a'u heffaith i drafod achosion ac effeithiau iechyd meddwl bregus.
Adborth

Yr athro i annog adborth gan y grwpiau a nodi'r ystod o achosion ac effeithiau maent yn eu nodi ynghylch yr unigolyn yn y llun ac eraill. Cofnodwch y canlyniad ar y bwrdd gwyn.
Gair i Gall am Iechyd

Y disgyblion i ddal ati i weithio mewn grwpiau a defnyddio Taflen 3 - Diemwnt 9.
Mae angen i'r disgyblion dorri'r diemwntau allan a'u gosod mewn siâp diemwnt mwy gan roi'r gair i gall mwyaf effeithiol ar dop y diemwnt, a'r lleiaf pwysig ar y gwaelod. Bydd y gweithgaredd hwn yn annog trafodaeth grŵp.
Adborth

Yr athro i gasglu adborth am y Diemwnt 9 gan ofyn i bob grŵp am eu tri gair i gall uchaf, a'r tri sydd lleiaf effeithiol.
Clip fideo

Y disgyblion i wylio'r clip fideo.
Rôl y gwirfoddolwyr

Yr athro i roi cymorth i'r disgyblion fyfyrio ar rôl y gwirfoddolwyr sy'n cefnogi'r mudiad, ac ar lefel bersonol, holi a oes ganddyn nhw'r sgiliau a rhinweddau personol fyddai eu hangen?
Gallen nhw fod yn Samariad? Pam / pam ddim?
Ymgyrch codi ymwybyddiaeth

Gan weithio mewn grwpiau, y disgyblion i ddylunio ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau - posteri/taflenni/hysbyseb ac ati i dynnu sylw at rôl y Samariaid a'r angen am wirfoddolwyr i redeg yr elusen gan ddefnyddio'r wybodaeth ar Taflen 4 - Y Samariaid.
Bydd angen papur A2 ac A4, pinnau ffelt lliw, pensiliau ac ati ar y myfyrwyr.
Cyflwyniad

Pob grŵp i gyflwyno eu hymgyrch codi ymwybyddiaeth i weddill y dosbarth.
Bydd modd arddangos y posteri/taflenni o amgylch yr ysgol pan fyddant wedi'u cwblhau.
Sylwadau Ysgrifenedig

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 5 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.
Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso rhif
- TGC
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
- Gwella eich perfformiad eich hun
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn greadigol
- Archwilio ystyr
- Myfyrio
- Sgiliau ymchwilio
- Sgiliau cyflwyno
Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):
- Rhannu amcanion dysgu
- Defnyddio cwestiynau
- Adborth effeithiol
- Modelu
- Hunanasesu disgybl
- Asesu gan gyfoedion
- Asesu parhaus
- Addasu addysgu/ adolygu
- Cyfarfod Llawn