
'BBC Three My Murder' ar gyfer athrawon
Adnodd addysgol yn seiliedig ar ddrama ffeithiol BBC Three My Murder i'w ddefnyddio gan athrawon mewn gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Cynnwys Saesneg sy'n addas ar gyfer disgyblion 14 oed ac i fyny.
ABCh
Adnoddau Lles Economaidd
Mae addysg ar gyfer lles economaidd yn helpu myfyrwyr i reoli eu harian a'u gyrfaoedd yn effeithiol. Gan ganolbwyntio ar faterion yn yr ysgol ac y tu allan i'r ysgol, bydd myfyrwyr yn dod i ddeall yr amgylchedd masnachol, ac amrywiaeth a swyddogaeth byd busnes a'i gyfraniad at ffyniant cenedlaethol.
Adnoddau Lles Personol
Mae lles personol yn helpu pobl ifanc i dderbyn newid, i deimlo'n gadarnhaol ynglŷn â phwy ydyn nhw, ac i fwynhau bywydau iach, diogel, cyfrifol a llawn. Bydd disgyblion yn dysgu adnabod a rheoli risg, ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb drostynt eu hunain a chyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau.
Dinasyddiaeth
Mae dinasyddiaeth yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r argyhoeddiad i chwarae rhan effeithiol yn eu cymunedau; yn lleol, yn genedlaethol neu'n fyd-eang. Drwy edrych yn gritigol ar faterion sy'n ymwneud â democratiaeth, cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol, amrywiaeth a hunaniaeth, a hynny o amrywiol safbwyntiau, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ffurfio a mynegi eu barn eu hunain, ac i weithredu ynghylch materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Adnoddau dysgu diweddaraf
Depression (fideo Saesneg)
Gwers heriol ar y pwnc iselder, sy'n ysgogi disgyblion i greu canllaw hunangymorth ar gyfer pobl ifanc.
Mae Parkour yn sgil
Gwers sy'n gofyn beth yw'r gwahaniaeth rhwng gweithgaredd peryglus a champ/chwaraeon ac i drafod a ddylid galw Parkour yn gamp.
Gormod o waith cartref
Gwers sy'n annog disgyblion i ddatblygu sgiliau rhesymu a blaenoriaethu er mwyn deall pam eu bod yn cael gwaith cartref.




