
Ydi, mae’r dathlu’n parhau. A chewch chi ddim ymddiheuriad gen i am hynny.
Ddeugain mlynedd yn ôl, roedd BBC Radio Cymru yn ffeindio ei thraed. Ac yn ffeindio ei chynulleidfa. Roedd hi wedi torri’n rhydd o fod yn rhaglen yma a thraw, ar donfeddi gorsaf radio arall - Radio 4 Cymru.
Ac er bod rhai yn datgan gwae, roedd ‘na gynulleidfa gynnes yn barod i groesawu Hywel Gwynfryn a’i ‘Helo Bobol’ i mewn i’w cartrefi, i mewn i’w bywydau.
Mae’r byd yn lle tipyn mwy cymhleth erbyn hyn, a’r cynnig i wrandawyr yn dipyn ehangach. Er hynny, mae hi mor braf cael dweud, wrth i Radio Cymru ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth, y bydd rhaid teithio’n go bell i ddod o hyd i orsaf radio genedlaethol sydd â gwrandawyr mwy tryw, neu sydd o’r farn fod eu gorsaf yn fwy gwerthfawr.
Ac mae’n bwysig cydnabod ein gwrandawyr a diolch am eu teyrngarwch a’u cwmni. Felly, dyma fwrw ati i wneud hynny.
A phryd gwell i gynnal ein Diwrnod Diolch o Galon na Diwrnod Santes Dwynwen? Am un diwrnod mi fydd Radio Cymru yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd i ddathlu efo gwrandawyr ac i ddweud diolch am y gefnogaeth dros y deugain mlynedd diwethaf.
Mae’r achlysur yn un o nifer o ddathliadau wedi’u trefnu ar gyfer y flwyddyn, a dyma gychwyn efo diwrnod i’w gofio. Mae ‘na lond amserlen o gerddoriaeth a digon o glasuron – a’r rheini wedi bod wrth galon yr orsaf ers 1977 - yn ogystal â threfniannau newydd gan John Quirk. Y Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC fydd y glud sy’n dod â’r achlysur arbennig ynghyd.

Bydd ein cyflwynwraig Shân Cothi yn canu Calon Lân, heb y pwysau o drio canu deuawd 7,000 o filltiroedd ar wahân i’w phartner fel y gwnaeth hi’n 2015, pan ganodd hi’r gan efo Andres Evans ym Mhatagonia i dorri record byd. Bydd Yws Gwynedd yn canu ‘Sebona Fi’, hoff gan gwrandawyr Radio Cymru a bydd Alys Williams yn perffomrio clasur Ryan Davies, 'Pan fo’r Nos yn Hir’. Gwledd ym mhob ystyr.
Mae Neuadd Hoddinott ar agor i wrandawyr Radio Cymru sy’n dymuno bod yn rhan o’r dathliadau a chroeso mawr i chi i gyd i fod yno.
Hoffwn i ddiolch yn fawr i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant yr orsaf dros y ddeugain mlynedd diwthaf, ac yn bennaf i’r cynulleidfa sy’n chwarae’r rhan fwyaf pwysig, pob dydd. Diolch o galon!
Dilynwch BBC Radio Cymru ar Facebook a Twitter am y diweddara o'r dathliadau Diwrnod Diolch o Galon.
