Diddorol oedd nodi yn ddiweddar fod rheolwr newydd Bangor, Andy Legg wedi dweud fod y clwb am ystyried troi yn glwb llawn amser yn y dyfodol. Ar hyn o bryd dim ond y Seintiau Newydd sydd yn llawn amser o fewn yr Uwch gynghrair, er, y gellir dadlau, fod Coleg Met Caerdydd, yn gallu trefnu eu hunain fel tîm llawn amser gan i bob aelod o’r tîm fod yn fyfyrwyr (neu gyn fyfyrwyr) o fewn y coleg.
Does dim amheuaeth fod y statws o fod yn glwb llawn amser yn rhoi mantais i dîm, a d’oes ond i ni weld y canlyniad rhwng y Seintiau a Rhyl yr wythnos diwethaf (deg i ddim i'r Seintiau) i wybod fod yna agendor yn y safon rhwng y ddau dîm.
Yn wir, yn y gemau dwi wedi eu gweld hyd yn hyn, a rhaid dweud mai timau sydd yn y chwech isaf o’r uwch gynghrair oedd y rhan fwyaf, mae’n eithaf amlwg fod yna angen codi safon. Ar y cyfan roedd y timau yn cadw trefn a chwarae i batrwm, ond llai amlwg oedd y gallu gan unigolion o fewn y timau i effeithio’r gêm, neu i newid cwrs y gem drwy weledigaeth neu hyd yn oed wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
Hwyrach, o ystyried hyn mai haws ydi canolbwyntio ar ffitrwydd a hwyrach trefnu timau yn gyffredinol mewn dwy sesiwn ymarfer yr wythnos, (ac os mai dim ond un sesiwn sydd yn cael ei gynnal, yna mae'n fwy anodd byth) na chanolbwyntio ar wella unigolion i feddwl drostynt eu hunain a gwneud penderfyniadau ar y cae a all newid cwrs y gêm.
Fyddai tîm llawn amser yn cael llawer mwy o amser a chyfleodd i wneud hyn, a dyna i mi un o rinweddau a chryfderau'r Seintiau.
Felly, haws dweud na gwneud, a dwi'n ymwybodol o hyn drwy brofiad, ond i ba raddau y gellir gobeithio am dimau llawn amser o fewn yr uwch gynghrair yma yng Nghymru. Bydd angen llawer o feddwl a chefnogaeth ariannol, nid yn unig o fewn y cymunedau, ond yr arbennig drwy sefydlu partneriaeth gyda busnesau a diwydiannau lleol.
Wedi dweud hyn i gyd, fe geisiodd clwb Castell Nedd fynd yn llawn amser rhai blynyddoedd yn ôl, a methiant fu’r ymdrech yn y pen darw, felly hefyd Llanelli. W’n i ddim beth ydi'r ateb, yn enwedig o ystyried maint y trefi (a’r pentrefi) sydd yn cynnal pêl droed o fewn Cymru, a hwyrach mai timau rhan amser fydd yr ateb.
Ond mae un peth yn sicr - rhaid parhau i wella safonau, boed hyn beth bynnag fo trefn a chyfansoddiad y clybiau , boed hynny yn rhan amser neu'n llawn amser.
Bydd hi’n werth cadw llygaid ar y datblygiadau ym Mangor petai’r clwb yn penderfynu gwireddu’r awgrym o droi yn glwb llawn amser yn y dyfodol.
