Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 1af o Ebrill 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Priodas ddiamwnt

canlyn - courting

lle cwrddoch chi? - Where did you meet?

gweddïo - to pray

mo'yn - eisiau

llythyron caru - love letters

sugno - to draw in

geirfa - vocabulary

gwylanod - seagulls

y gyfrinach - the secret

sawl gwaith - several times

"...Clip o Bore Cothi, rhaglen y gantores Shan Cothi, a'r wythnos hon mi gafodd Shan sgwrs efo dau oedd yn dathlu penblwydd priodas arbennig iawn. Eleni mae Wally a Gwen Henry yn dathlu eu priodas ddiamwnt ac mi gaethon ni glywed yn ystod y sgwrs sut, a lle cwrddon nhw gynta. Ac mi roedd y sgwrs fach hyfryd hon yn rhoi darlun i ni o fywyd Shir Gâr yn y cyfnod pa oedd Wally a Gwen yn canlyn. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Dylan Jones - Ffermwyr Ifanc

sied gneifio - shearing shed

her fawr - a big challenge

yr oerfel - the cold

gweithgareddau - activities

digartrefedd - homelessness

cymuned wledig - rural community

anrhydedd - honour

braint eithriadol - a huge priviledge

llysgennad - ambassador

hir hoedlog - long life

...a dyna ni wedi cael cip bach ar fywyd rhamantus Wally a Gwen. Gobeithio y bydden nhw'n dathlu mewn steil ynde? Fuoch chi yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd erioed? Os nad, falle basech chi'n synnu faint o bobl ifanc sy'n mynd yna. Wrth gwrs mae'r mudiad Ffermwyr Ifanc yn gyfrifol am hynny i raddau, ac mae'n wir mai mynd yno i fwynhau eu hunain mae'r rhan fwya o bobl ifanc. Ond ar raglen Dylan Jones ddydd Mawrth mi glywon sut y mae rhai o'r ffermwyr ifanc yn mynd i gael bywyd go galed yn ystod y Sioe eleni...



Dylan Jones - Prawf gyrru

hyfforddi - to train

yn weddol rhwydd - fairly easily

lluchio - to throw

canmol - to praise

helynt - trouble

cefndir - background

y fyddin - the army

hanner canrif - half a century

darfod - gorffen

ddim o angenrheidrwydd - not necessarily

Lowri Fflur yn fan'na yn sôn am rai o ddigwyddiadau'r Sioe Frenhinol eleni. Dan ni'n mynd i aros efo rhaglen Dylan Jones rwan, ond yn mynd o fyd ffermio i fyd dysgu gyrru. Faint ohonoch chi basiodd eich prawf gyrru'r tro cynta? Wel, falle basech chi wedi llwyddo tasai ganddoch chi rhywun fel Alan Hughes i'ch dysgu. Mae Alan wedi bod yn rhoi gwersi gyrru ers pumdeg o flynyddoedd ac mi gafodd Dylan Jones glywed ychydig o'i hanes ddydd Mercher diwetha...



Bore Cothi - Margaret Huws



gwasanaeth - service

wyr a wyres - grandson and granddaughter

cychwyn - dechrau

tusw o flodau - bouquet of flowers

llawenhau - to rejoice

wrth ei fodd - delighted

llanw lan - filling up

yr annwyl wr - my dear husband

haeddu - to deserve

arno fo mae'r bai - it's his fault

Dylan Jones yn fan'na yn sgwrsio efo Alan Hughes am wersi dreifio. Dan ni eisoes wedi clywed clip o Bore Cothi, a dan ni mynd i gael clywed un arall rwan, a hynny achos bod Shan Cothi'n cael cymaint o bobl ddiddorol ar ei rhaglen. Dan ni'n mynd i gael clwyed clip bach o sgwrs gafodd Shan ddydd Mercher efo Margaret Huws sy’n fam i ddeg o blant ac yn nain, neu'n fam-gu, i ddau ddeg saith, ia dyna ddwedes i - dau ddeg saith...

C2 - Y Ffug



dylanwadu - to influence

cyfoes - modern

bodoli - to exist

cyson - consistent

awyrgylch - atmosphere

ystod - range

amrywio - to vary

llwyfan - stage

dwlu ar - hoffi yn fawr

yn eithriadol - extemely

Wel, dw i'n siwr bod Margaret wedi cael digon o gardiau ac anrhegion ar Sul Y Mamau! Dan ni'n mynd i fyd hollol wahanol rwan ac at un o raglenni C2. Lisa Gwilym fuodd yn sgwrio efo Billy a Iolo o fand Y Ffug - un o fandiau newydd y Sîn Roc Gymraeg. Pa fiwsig sy wedi dylanwadu arnyn nhw tybed?

Dylan Jones - Arwyn Evans

cenedlaeth - generation

ar fin - about to

caredig - generous

gweiddi - to shout

yn chwith iawn - very strange

atgofion melys - fond memories

cynrychioli - to represent

pan on i'n iau - when I was younger

diwedd cyfnod - end of a period

Dan ni wedi cael pob cenhedlaeth ar y podlediad yr wythnos yma yndo? O Wally a Gwen yn dathlu eu priodas ddeiamwnt, i aelodau o'r band Ffug yn fan'na yn siarad efo Lisa Gwilym. Ac mi gawn ni glywed sawl cenhedlaeth eto yn siarad yng nghlip ola heddiw 'ma. Llyr Edwards fuodd yn holi Arwyn Evans ar ran rhaglen Dylan Jones. Mae Arwyn yn ymddeol eleni ar ôl gyrru bws ysgol am flynyddoedd maith. Mae Llyr hefyd yn cael gair efo wyr Arwyn, Elfyn, a llawer iawn o bobl ardal Dinas Mawddwy sy wedi teithio ar y bws efo Arwyn dros y blynyddoedd...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru

Nesaf

Tlws Cymdeithas Peldroed Cymru