Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Co Bach - Edwin y ci
cyfres - series
rhannu - to share
golau dydd - the light of day
degawdau - decades
cwn defaid - sheep dogs
Arglwydd - Lord
llawn chwain - full of fleas
cymeriad - a character
tywod - sand
..sgwrs o'r gorffennol ar y gyfres 'Co Bach'. Cyfres ydy hon lle mae Eddie Ladd yn chwarae clipiau o hen raglenni sydd heb weld golau dydd ers degawdau. Yn y clip yma cawn glywed T Glynne Davies yn holi Mattie Pritchard am ei chwn.
John ac Alun - Canu Gwlad
i frig - to the top
yn ddiweddar - recently
cwrdd - to meet
oherwydd - because
cerddoriaeth - music
caneuon traddodiadol - traditional songs
cyfansoddi - to compose
dylanwadau - influences
Dipyn bach o hanes Edwin, ci Mattie Pritchard yn fan'na ar y rhaglen 'Co Bach'. Gwesteion John ac Alun nos Sul oedd y grwp canu gwlad Blue Genes o Goedpoeth ger Wrecsam. Grwp teulol ydy Blue Genes sef Kay–Louise a Stephen Lee a'u merch Megan sy'n 14 oed. Daeth eu EP 'Named and Shamed' i frig siartiau Canu Gwlad Prydeinig iTunes yn ddiweddar. Dyma'r teulu yn rhannu ychydig o'u hanes efo John ac Alun...
Rhaglen Aled Hughes - Aled Llewelyn
rhyfedd - strange
y saithdegau - 70's
dynes - woman
sbïo - edrych
chwythu fyny - to blow up
witsiad - aros
arbenigwyr - expert
corff - body
pwysau - weight
dro ar ôl tro - time after time
Pob lwc i 'Blue Genes' ynde a gobeithio cawn nhw ragor o lwyddiant yn y siartiau. Mae actorion weithiau yn gorfod gwneud pethau rhyfedd iawn i'w cyrff - colli lot o bwysau neu mynd yn dew yn fwriadol. Cafodd Aled Hughes sgwrs am hyn efo Aled Llewelyn wythnos diwetha. Dyma nhw'n sôn am yr actor Robert de Niro...
Rhaglen Geraint Lloyd - Gwmni Bwyd Bethan
arlwyo - catering
trefnu - to organise
fin nos - early evening
penderfynais i - I decided
bellach - by now
Y Sioe Amaethyddol - The Royal Welsh Show
priodasau - weddings
Diolch i'r drefn nad oes rhaid i neb o Radio Cymru altro eu siap er mwyn gweithio yma! Mae gan Bethan Lewis o Aberhosan ger Machynlleth gwmni arlwyo - Cwmni Bwyd Bethan. Cafodd hi sgwrs efo Geraint Lloyd am ei gwaith a dyma hi'n disgrifio'r math o lefydd mae hi'n trefnu'r arlwyo ynddyn nhw...
Cofio - Constance
pictiwrs - cinema
oedd yn berchen y lle - owned the place
sawl peth - several things
Bethan Lewis o Aberhosan oedd honna yn sôn am ei chwmni arlwyo. Clip arall o'r archif rwan ond o raglen 'Cofio' efo John Hardy tro 'ma.
Y sinema oedd thema'r rhaglen a dyma i chi glip o Constance Griffiths o'r Garnant yn hel atgofion am bictiwrs ei phlentyndod.
Beti a'i phobol - Meirion Davies
celf - art
anghonfensiynol - unconvensional
sbort - fun
agwedd - attitude
cefnogol - supportive
canlyniadau gorau - best results
unigolyn - individual
wedi dwlu bod - loved to have been
canfod - to discover
ysbrydoledig - inspirational
Hanes pictiwrs Garnant yn fan'na ar y rhaglen 'Cofio'. Mae Meirion Davies wedi cael gyrfa llwyddianus fel actor a sgriptiwr ac wedi dal swyddi uchel iawn yn S4C ac nawr yng Ngwasg Gomer. Ond celf oedd ei hoff bwnc yn yr ysgol. Fo oedd gwestai Beti a'i Phobl wythnos diwetha a dyma fo'n sôn am ei hoffter o gelf...
Bore Cothi - Ty Bach Twt
ysbrydoli - to inspire
fesul ystafell - room by room
gwaith corfforol - physical work
dodfren - furniture
ysgafn - light
cadach - cloth
yn tueddu i - tend to
fatha - fel
ychydig - tipyn bach
Meirion Davies yn esbonio beth a phwy oedd wedi ei ysbrydoli i gymryd diddordeb mewn celf. Mi fasai rhai'n dweud bod glanhau'r ty yn gelf! Mae gan Caren Hughes gwmni glanhau o'r enw Ty Bach Twt. Dyma hi yn rhoi tips ar sut i fynd ati i lanhau'r gwanwyn yma...
