Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 09/02/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Y Pryd A'r lle - Rêfs

deddfau - laws

sylwi - to notice

(sy)mudiad - movement

cael eu gorfodi - they were forced

ofnadwy o falch - terribly pleased

dychmygu - to imagine

diwylliannol - cultural

Caergrawnt - Cambridge

dyfodol - future

yn debycach i - more similar to

"...rhaglen newydd o'r enw 'Y Pryd a'r Lle' sydd yn edych ar y cysylltiad arbennig rhwng llefydd a cherddoriaeth. Yn y rhaglen gyntaf roedd Gareth Potter, Phil Jones ac Elen Jones yn sôn am y ‘Rêfs’ oedd yn cael eu cynnal mewn gwahanol lefydd yng Nghymru ac yn esbonio sut roedd cerddoriaeth y nawdegau wedi effeithio ar eu bywydau nhw. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Dan Yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth - Pync

dylanwad - influence

pynciau - isues

chwyldro - revolution

cyfnod - period (of time)

cefndir - background

y wisg - the clothes

llywio - to steer?????

newid bywyd - life changing

anferth - huge

fel petai - so to speak

"Tri o gyn-refars o'r nawdegau yn fan'na yn rhaglen gynta 'Y Fan a'r Lle'. A dylanwad cerddoriaeth oedd un o bynciau Dylan Iorwerth ar ei raglen Dan Yr Wyneb ddydd Llun hefyd. Y ddau fuodd yn sôn am effaith cerddoriaeth arnyn nhw yn bersonol, ac ar fywydau pobl eraill yn ogystal, oedd Rhys Mwyn a Jochen Eisentraut. Roedd y ddau o'r farn bod cerddoriaeth yn effeithio ar ein hemosiynau ni ac ar ein ffordd ni o fyw, ac iddyn nhw roedd hyn yn arbennig o wir am gerddoriaeth pync. Dyma'r ddau yn sôn am y chwyldro pync bedwardeg o flynyddoedd yn ôl..."

Rhaglen Dylan Jones - Catrin Hardy

cyfryngau cymdeithasol - social media

addunedau - resolutions

dewr - brave

penderfyniad - decision

andros o dda - really good

dileu - to delete

pwysleisio - emphasise

cysylltu - contact

amser ychwaegol - additional time

sylweddoli - to realise

"O chwyldro pync y nawdegau i chwyldro'r cyfryngau cymdeithasol y ganrif hon. Dw i 'n siwr ein bod ni i gyd yn nabod pobl wnaeth addunedau blwyddyn newydd i fwyta'n iach neu i gadw'n heini. Ond faint o bobl dach chi'n nabod oedd digon dewr i addunedu i beidio â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter? Dyna'n union wnaeth Catrin Hardy sydd yn dod o Ogledd Cymru'n wreiddiol ond sydd yn byw yn Lerpwl erbyn hyn. Mi wnaeth hi hefyd addunedu i beidio ag yfed alcohol. Ydy hi wedi llwyddo efo'r ddwy adduned? Dylan Jones fuodd yn ei holi..."

Cofio - Cofis

tyddyn - smallholding

gwellt - grass

bwch gafr - billie goat

holwch chi'r hogia - ask the boys

pres - arian

trafodaeth faith - a lengthy discussion

fel y cythraul - devilish

acw - over there

hardda' - most beautiful

y Gwarchodlu Cymreig - the Welsh Guards

"Rhoi'r gorau i alcohol felly yn fwy o sialens i Catrin Hardy na rhoi'r gorau i Facebook. Ond chwarae teg iddi hi mae hi wedi gwneud yn dda yndo? Dw i'n siwr basai'n gwneud lles i ni gyd i roi'r gorau i'r ddau beth am sbel. Stori o Gaernarfon, tre'r Cofis, i orffen. A stori am ddau Gofi arbennig glywon ni ar Cofio ddydd Mercher. John Roberts Williams oedd yn dweud y stori am Mons a Wil Napolean yn gwerthu anifail arbennig, ond fel y cawn ni glywed nid nhw oedd biau'r anifail. Mae hi'n stori dda a doniol - mwynhewch..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 2il o Chwefror 2016

Nesaf

Chwilio am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru