Main content

Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 18 Rhagfyr 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Cofio - Sol-ffa 

adeg y rhyfel - wartime

cyhoeddiadau - publications

alaw - melody

anwybodaeth - ignorance

rhaid i mi fanteisio - I must take advantage

dirprwy - deputy

mabolgampwr - athlete

hen nodiant - staff notation

llyffethair - fetter

crap go lew - a fair grasp 

"...faint ohonoch chi tybed gafodd wersi sol-ffa ers talwm? Does dim cymaint yn ei ddysgu'r dyddiau 'ma nag oes? Ond ar hyd y blynyddoedd mi ddysgodd llawer iawn o bobl ddarllen cerddoriaeth drwy'r sol-ffa. Ar Cofio ddydd Sadwrn mi glywon ni sgwrs rhwng John Hardy a Rhys Jones ac Aled Lloyd Davies. Roedd Rhys ac Aled yn hoff iawn o'r sol-ffa ac roedd ganddyn nhw un neu ddau o storiau diddorol i'w dweud amdano..."



Heledd Cynwal - Catrin Finch 

telynores - female harpist

traddodiadau - traditions

Almaeneg - German

noswyl Nadolig - Christmas Eve

cannwyll - candle

ysbrydol - spiritual

tawelu a llonyddu - to chill

gwydd - goose

ymwybodol - aware

cyfuno - to combine

"Wel, mi faswn innau wedi sefyll hefyd o weld y gair 'Coda' ar y copi! Stori dda ynde! Dan ni'n mynd i aros ym myd cerdd rwan ond tro 'ma efo'r delynores enwog Catrin Finch. Ond nid siarad am sol-ffa oedd Catrin efo Heledd Cynwal ddydd Mawrth diwetha, ond am draddodiadau nadolig ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."



Georgia Ruth - Meic Stevens

casgliad - compilation

torri nhafod - to cut off my tongue

caneuon gwerin - folk songs

y driniaeth - the treatment

pwerus - powerful

gwendid - weakness

ymosodiad ar y corff - an attack on the body

maes brwydro - battleground

chwerthin - laugh

sa i'n gwybod - dw i ddim yn gwybod

"Dw i'n siwr bydd y nadolig hwn yn un arbennig i Meic Stevens ar ôl iddo fo gael gwybod ei fod wedi gwella'n llwyr o gancr. Buodd o'n sgwrsio efo Georgia Ruth nos Iau am ei salwch ac am Dyma’r Ffordd i Fyw, sydd yn gasgliad o recordiau Meic o'r wythdegau. Mae'r casgliad newydd gael ei ryddhau os dach chi'n dal i chwilio am anrheg Nadolig i rywun! Dan ni'n mynd i glywed rhan o'r sgwrs mewn munud, ond tasech chi eisiau clywed rhagor, mae'r sgwrs gyfan i'w chlywed ar wefan C2. "



Dafydd a Caryl - Sion Corn

rhestr - list

cnoi - chew

cwnhingen - rabbit

allwedd hud - secret key

ceirw - reindeer

"Ia, llythyr at Sion Corn amdani os dach chi eisiau'r casgliad yna o ganeuon Meic! Ac mi fuodd y dyn ei hun, cofiwch, yn ein stiwdio ni ar Dafydd a Caryl ddydd Mawrth diwetha. A wyddoch chi chi be? Mi gafodd o sgwrs hir ar y ffôn efo Sioned o Aberystwyth. Gobeithio'n wir ynde, y bydd o'n cofio'r holl bethau oedd Sioned yn gofyn amdanyn nhw, yn enwedig gan ei fod wedi cael siocled a lagyr ganddi hi'r llynedd..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Oes gennych chi hoff gân neu garol Gymraeg?

Nesaf

Dyfodol Clwb Peldroed Dinas Caerdydd